Siân James (nofelydd)

nofelydd, academic a chyfieithydd o Gymraes

Nofelydd Cymreig oedd Siân James (20 Medi 193021 Gorffennaf 2021).[1] Ysgrifennodd hi yn yr iaith Saesneg.

Siân James
Ganwyd20 Medi 1930 Edit this on Wikidata
Coed-y-bryn Edit this on Wikidata
Bu farw21 Gorffennaf 2021 Edit this on Wikidata
Swydd Gaerwrangon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
PriodEmrys James Edit this on Wikidata
Gweler hefyd: Siân James.

Ganwyd James yng Nghoed-y-bryn ger Llandysul yng Ngheredigion (Sir Gaerfyrddin ar y pryd), a mynychoedd Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn ddiweddarach daeth yn Gymrawd o'r brifysgol. Gwobrwywyd gyda gradd anrhydedd gan Brifysgol Morgannwg ac roedd hefyd yn Gymrawd o'r Academi. Enillodd wobr yr Yorkshire Post ddwywaith, a cysidrir ei thrydydd nofel A Small Country i fod yn glasur ymysg llenyddiaeth Saesneg o Gymru.[2][3] Yn 2006, cafodd A Small Country ei droi'n gyfres ddrama ar y teledu yn yr iaith Gymraeg (Calon Gaeth), a enillodd wobr BAFTA Cymru ar gyfer y ddrama orau/cyfres ddrama orau ar gyfer y teledu.[4]

Ym 1958, priododd yr actor, Emrys James (m. 1989).[5] Roedd yn perthyn drwy briodas i D. J. Williams, Abergwaun.

Gweithiau golygu

  • One Afternoon (1975)
  • Yesterday (1978)
  • A Small Country (1979)
  • Another Beginning (1979)
  • Dragons and Roses (1983)
  • A Dangerous Time (1984)
  • Love and War (1994)
  • Storm at Arberth (1994)
  • Not Singing Exactly (casgliad o straeon byrion, 1996)
  • Two Loves (1997)
  • The Sky Over Wales (cofiant, 1997)
  • Summer Storm (1998)
  • Second Chance (2000)
  • Outside Paradise (straeon byrion, 2001)
  • Summer Shadows (2004)
  • Return to Hendre Ddu (2009)

Cyfeiriadau golygu

  1. Tony Curtis (9 Awst 2021). "Siân James obituary". The Guardian. Cyrchwyd 11 Awst 2021.
  2. Meic Stephens, A Book of Wales: an Anthology, (JM Dent, 1987)
  3. Tony Curtis, Wales at War: Critical Essays on Literature and Art, (Seren, 2007)
  4. Bafta Cymru[dolen marw]
  5. Parthian Books

Dolenni allanol golygu