Cerddor, cantores ac arweinydd côr yw Siân Wheway (ganwyd Mawrth 1960). Cyd-gyfansoddodd cân fuddugol cystadleuaeth Cân i Gymru ym 1983. Hi yw cyfarwyddwr presennol Côr Dre, Caernarfon.[1]

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Fe'i magwyd ym Metws-yn-Rhos. Astudiodd radd cerddoriaeth ym Ngholeg Prifysgol Bangor o dan yr athro William Mathias - y piano a'r llais oedd ei phrif faes astudiaeth ymarferol. Wedi pedair mlynedd yn dysgu cerddoriaeth yn y sector uwchradd aeth ymlaen i astudio ar gwrs Ôl-radd yn y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.[1]

Bu'n gweithio gyda'r BBC ac HTV yng Nghaerdydd mewn amrywiaeth o swyddi fel perfformio, cyfansoddi, sgriptio, ymchwilio a chyflwyno. Symudodd yn ôl i'r Gogledd ym 1990 a chael gwaith fel is-gynhyrchydd rhaglenni adloniant ysgafn yng nghwmni Teledu'r Tir Glas yng Nghaernarfon. Yn 1994 daeth yn o gyfarwyddwyr cwmni Teledu Gwdihw oedd yn cynhyrchu rhaglenni dogfennol, adloniant ysgafn a cherddoriaeth i S4C a'r BBC yn bennaf. Yn 2000 sefydlodd RYGARUG gyda'i gŵr, cynllun celfyddydau perfformio i bobol ifanc Dyffryn Peris a'r cylch a cynhyrchwyd 4 sioe gerdd yn Theatr Seilo, Theatr Gwynedd a Galeri Caernarfon.

Yn yr 1980au bu'n perfformio gyda sawl band, yn cynnwys lleisiau cefndir ar gyfer Omega, Ar Log a Steve Eaves. Roedd hefyd yn chwarae'r allweddellau ac yn brif leisydd y grŵp Pryd ma' Te.

Cystadlodd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1983, gan gyfansoddi y gân "Popeth Ond Y Gwir" gyda Robin Gwyn, gan ddod i'r brig y flwyddyn honno. Mae hi'n dal i gyfansoddi nifer fawr o ganeuon.

Roedd Siân yn arweinydd Côr Eryri o 1999 hyd at 2010 ac ers Ebrill 2013, hi yw Cyfarwyddwr Côr Dre, sef côr o ardal Caernarfon a'r cyffiniau. Mae Sian wedi bod yn diwtor yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ers 2003 yn dysgu piano, canu a theori cerddoriaeth.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2  Siân Wheway. Canolfan Gerdd William Mathias. Adalwyd ar 27 Chwefror 2017.