Steve Eaves
Canwr, bardd a chyfansoddwr ydy Steve Eaves (ganwyd 9 Ionawr 1952 yn Stoke-on-Trent), sydd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i oes yn ardal Bangor, Gwynedd. Mae'n byw ym mhentref Rhiwlas yn Arfon ers tros 40 mlynedd, ar ôl cyfnodau yn byw ym Maesgeirchen, Bangor a Cheredigion. Y prif ddylanwad ar ei gerddoriaeth yw'r 'blŵs'.[1] Mae wedi bod yn aelod o sawl band gan gynnwys Steve Eaves a'i Driawd a dyfodd i gael ei hail-enwi'n Steve Eaves a Rhai Pobl, fel canwr a gitarydd.
Steve Eaves | |
---|---|
Steve Eaves yng Ngŵyl Tegeingl, 2012 | |
Ganwyd | 1952 |
Galwedigaeth | bardd, cyfansoddwr caneuon |
Plant | Manon Steffan Ros, Lleuwen Steffan |
Bu'n gweithio am rai blynyddoedd mewn ffatrïoedd ac ar safleoedd adeiladu ar hyd a lled Gogledd Cymru a Sir Gaer cyn mynd i Goleg Prifysgol Llanbedr Pont Steffan, lle graddiodd mewn Cymraeg a Ffrangeg. Bu'n ennill bywoliaeth ym maes polisi iaith, cynllunio iaith a chyfieithu. Bu'n gweithio fel Uwch Ymgynghorydd i Gwmni Iaith-y Ganolfan Cynllunio Iaith am dros 20 mlynedd, a bellach mae'n Ymgynghorydd Cynllunio Ieithyddol annibynnol.
Bu'n weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg gan dreulio cyfnod yn y 1980au yn Is-Gadeirydd arni. Bu hefyd yn aelod gweithgar o Fudiad Sosialaidd Gweriniaethol Cymru. Yn ogystal, daeth i amlygrwydd yn yn y 1980au cynnar fel bardd, gan gyhoeddi dwy gyfrol o gerddi, Noethni (1983) a Jazz yn y Nos (1986), sydd ymysg y goreuon yng Nghyfres Beirdd Answyddogol y Lolfa. Rhyddhaodd sawl albwm gyda'i fand Steve Eaves a'i Driawd (a newidiwyd yn ddiweddarach i Steve Eaves a Rhai Pobl, i adlewyrchu'r twf yn nifer yr aelodau). Dau aelod craidd o'i fand ers degawdau yw Elwyn Williams (gitâr, mandolin, llais) a Gwyn 'Maffia' Jones (drymiau). Bu'r diweddar Brifardd Iwan Llwyd yn chwarae gitâr fâs yn y band am ryw 25 mlynedd.
Mae ei albymau cynnar yn cynnwys Viva La Revolucion Galesa! (EP, Stiwdio'r Felin, Felinheli, 1984), Cyfalaf a Chyfaddawd (LP, Sain, 1985) Sbectol Dywyll (LP, Stiwdio Les, Bethesda, 1989) Plant Pobl Eraill (LP, Ankst, 1990), Tir Neb (EP, er budd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1990), Croendenau (CD, Ankst, 1992), Y Canol Llonydd Distaw (CD, Ankst, 1996) a Iawn (CD, Sain, 2001).
Yn 2007 rhyddhaodd ei albwm, Moelyci (CD, Sain). Mae'r albwm yn cynnwys darlleniadau gan y diweddar Brifardd Gerallt Lloyd Owen, yn adrodd darnau o'i gyfrol nodedig "Cerddi'r Cywilydd" gyda cherddoriaeth Steve a'i fand yn gyfeiliant teimladwy ac effeithiol i'r geiriau cain. Mae'r albwm yn deyrnged i wraig diweddar Steve Eaves, Siân. Mae'r teitl, 'Moelyci' yn cyfeirio at y mynydd lle gwasgarwyd llwch ei wraig, ar y llethrau tu ôl i bentref Rhiwlas. Albwm ddiweddaraf y band yw "Y Dal yn Dynn, y Tynnu'n Rhydd" (CD,Sain, 2019).
Ar ddechrau 2011, cyhoeddodd Steve Eaves ei gasgliad adolygol, Ffoaduriaid (Sain), sef casgliad mewn bocs 6 CD yn tynnu at ei gilydd ei holl recordiadau blaenorol. Enillodd Wobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau RAP BBC Radio Cymru am ddwy flynedd yn olynol, yn 2011 a 2012.
Mae ganddo ddwy ddoethuriaeth. Mae'r gyntaf yn radd Doethur y Brifysgol (gan Y Brifysgol Agored), a ddyfarnwyd iddo yn 2014 i gydnabod "ei gyfraniad nodedig i iaith a diwylliant Cymru". Mae ei ail ddoethuriaeth yn PhD a ddyfarwyd iddo gan Brifysgol Caerdydd yn 2015 am draethawd ymchwil yn Gymraeg, yn dadlau o blaid hyrwyddo "ymwybyddiaeth ieithyddol feirniadol" fel cyfraniad allweddol i wireddu'r math o 'gynllunio ieithyddol cynhwysol' a arddelir ym maes polisi cyhoeddus yng Nghymru.
Bywyd personol
golyguMae gan Steve ddwy ferch sy'n adnabyddus eu hunain, Lleuwen Steffan a Manon Steffan Ros.
Llyfryddiaeth
golygu- Noethni (Y Lolfa, 1983)
- Y Trên Olaf Adref, Casgliad O Ganueuon Cyfoes gol. Steve Eaves (Y Lolfa, 1984)
- Jazz yn y Nos (Y Lolfa, 1986)
- Posteri Poeth (pecyn o 4 poster â cerdd, gyda Steve Eaves, Robat Gruffudd, Robin Llwyd ab Owain, Dewi Pws) (Y Lolfa, 2001)
Discograffiaeth
golygu- Viva La Revolucion Galesa! (EP, 1984)
- Cyfalaf a Chyfaddawd (Sain, 1985)
- Sbectol Dywyll (Ankst, 1989)
- Tir Neb (1990)
- Plant Pobl Eraill (Ankst, 1991)
- Croendenau (Ankst, 1992)
- Y Canol Llonydd Distaw (Ankst, 1996)
- Iawn (Sain, 2005)
- Moelyci (Sain, 2007)
- Ffoaduriaid (Casgliad Adolygol) (Sain, 2011)
- "Y dal yn Dynn, y Tynnu'n Rhydd" (Sain)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Shon Williams, "Steve Eaves", Gwefan BBC; adalwyd 22 Mehefin 2022