Si Hei Lwli (cân)
a traditional song
Hwiangerdd draddodiadol yw Si Hei Lwli.[1]
Yn y gân werin hon, mae'r fam, y tad neu berthynas agos arall yn disgrifio golygfa o long yn siglo ar donnau'r môr, a hynny ar rythm araf, i gyfleu'r teimlad o gwsg a chrud yn siglo.
Y geiriau
golyguSi hei lwli 'mabi,
Mae'r llong yn mynd i ffwrdd,
Si hei lwli mabi, Mae'r capten ar y bwrdd.
Si hei lwli, lw li lws,
Cysga, cysga 'mabi tlws;
Si hei lwli 'mabi,
Mae'r llong yn mynd i ffwrdd.
Si hei lwli 'mabi,
Y gwynt o'r dwyrain chwyth.
Si, fy mabi, lwli,
Mae'r Wylan ar ei nyth;
Si hei lwli, lwli lws,
Cysga, cysga 'mabi tlws.
Si hei lwli 'mabi,
Y gwynt o'r dwyrain chwyth.
Gweler hefyd
golygu- Si Hei Lwli: nofel gan Angharad Tomos a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Meinir Wyn Edwards, 100 o Ganeuon Gwerin (Y Lolfa, 2012), t.82