Si Muhand U M'hand
Roedd Si Muhand U M’hand, neu Si Mohand (tua 1840 / 1845 - 28 Rhagfyr 1905), yn fardd Berber yn yr iaith Ferber, yn aelod o lwyth yr At Yiraten yn Kabylie, Algeria, a aned ym mhentref Icheraiouen (Tizi Rached).
Si Muhand U M'hand | |
---|---|
Ganwyd | 1848 Icheraiouen |
Bu farw | 28 Rhagfyr 1906 Aïn El Hammam |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | bardd, athronydd |
Ei fywyd cynnar
golyguMae gwaith barddonol Si Mohand yn seiledig ar ei fywyd. Cafodd blentyndod cythryblus a bu'n dyst i drais a newidiau mawr. Gwelodd filwyr Ffrengig y Cadfridog Randon ar waith yn Kabylie a distryw ei bentref genedigol; yn lle'r hen bentref Berber cododdd y Ffrancod dref wedi'i hamddiffyn gan furiau a chaer a alwasant y Fort National (Larba Nat Iraten).
Wedi ffoi i bentref cyfagos gyda'i deulu, paratodd Si Mohand ifanc ar gyfer astudio'r gyfraith Islamaidd. Ond rhoddodd y gwrthryfel a dorrodd allan yn Algeria yn 1871 ddiwedd i'w gynlluniau. Cafodd ei dad ei ddienyddio gan yr awdurdodau a'i ewythr ei alltudio, a bu rhaid i'r teulu dorri i fyny a phawb ceisio gofalu drostyn eu hunain (mae'r teulu estyniedig yn hollbwysig yng nghymdeithas y Maghreb.
Yr Isefra
golyguYn alltud o'i fro ac yn unig, troes Si Mohand yn fardd crwydr. Dyna pam mae themau fel alltudiaeth, hiraeth a thynged yn elfennau mor bwyaig yn ei gerddi. Doedd Si Mohand ddim yn ysgrifennu ei gerddi, dim ond eu hadrodd o le i le i ennill ei damaid, ond cawsant eu cadw ar gof gan y pentrefwyr a daethant yn rhan o'r etifeddiaeth gyffredin.
Yn ddiweddarach cafodd yr Isefra (sy'n golygu "cerddi" yn yr iaith Ferber) eu cyhoeddi sawl gwaith, er enhgraifft gan Said Boulifa yn 1904, Mouloud Feraoun yn 1960 a gan Mouloud Mammeri yn 1969. Ers hynny mae cerddi eraill gan Si Mohand wedi cael eu casglu gan ymchwilwyr llafar gwlad.
Ffilm
golyguMae ffilm Le Rebelle yn seiliedig ar fywyd Si Mohand.
Llyfryddiaeth
golygu- Younes Adli, Si Mohand ou Mhand. Errance et révolte (Paris Mediterranee, 2001). ISBN 2842721101
- Mouloud Feraoun, Les poémes de Si Mohand (Paris, 1960)