Mouloud Feraoun
Roedd Mouloud Feraoun (8 Mawrth 1913 – 15 Mawrth 1962) yn llenor Berber yn yr iaith Ffrangeg o Algeria, a aned yn nhref Tizi Hibel yn Uwch Kabylie.
Mouloud Feraoun | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mawrth 1913 Kabylie |
Bu farw | 15 Mawrth 1962 Alger |
Galwedigaeth | llenor, athro ysgol |
Gwobr/au | Gwobr Eugène Dabit |
Ei fywyd
golyguWedi cyfnod o astudio yn école normale Algiers, treuliodd rai blynyddoedd yn athro ysgol cyn cael gwaith fel arolygydd canolfannau addysg. Roedd yn adnabod y llenor Ffrengig Albert Camus ac yn llythyru â fo yn 1951. Enillodd y Prix populiste yn 1953 am ei nofel La Terre et le sang. Ar ddiwedd y rhyfel annibyniaeth yn Algeria cafodd Mouloud a phump o'i gyd-arolygyddion addysg ei lofruddio gan asasin o'r OAS de eithafol yn y Château Royal, Algiers.
Ei waith
golyguPrif destun ei waith yw'r ymchwil am hunaniaeth Berber a'r gwrthdaro anorfod rhwng yr hen a'r newydd yng nghyd-destun trefedigaeth. Un o'i weithiau gorau yw Jours de Kabylie, sy'n gyfres o frasluniau o fywyd mewn tref fach ddi-nod yng nghefngwlad Algeria, seiliedig i raddau helaeth ar ei brofiadau ei hun.
Llyfryddiaeth
golygu- La Terre et le sang (1953). Nofel.
- Le Fils du pauvre (1954). Nofel. (cyfieithiwyd i'r Saesneg: The Poor Man's Son, University of Virginia Press)
- Les chemins qui montent (1957). Nofel.
- Les Poèmes de Si Mohand (1960). Golygiad o ddetholiad o gerddi gan y bardd iaith Berber Si Muhand U M'hand.
- Journal, 1955-1962 (1962). Dyddiadur.
- Jours de Kabylie (1968). Straeon byrion a brasluniau.
- Lettres à ses amis (1969). Llythyrau.
- L'Anniversaire (1972).