Newyddiadurwraig a darlledwraig oedd Sian Pari Huws (2 Medi 196029 Tachwedd 2015). Roedd yn gweithio gyda BBC Cymru yng Nghaerdydd ac yn darlledu yn Gymraeg a Saesneg.[1]

Sian Pari Huws
Ganwyd2 Medi 1960 Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
Bu farw29 Tachwedd 2015 Edit this on Wikidata
Man preswylSpittal, Cilgwri Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Yn ferch i gapten llong, ganed Sian Pari Huws yn Llanelwy ond symudodd y teulu i Gilgwri a threuliodd ei phlentyndod yn Spital, Bebington. Mynychodd Ysgol Ramadeg y Merched, Cilgwri (Wirral Grammar School) ac aeth i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu farw o ganser yn 55 oed ar y 29ain o Dachwedd 2015, gan adael ei phartner Geraint, ei mam Eira a'i brodyr Alun a Geraint a'u teuluoedd.

Ymunodd a'r BBC yng Nghaerdydd ar ddechrau'r 1980au. Cyflwynodd Good Morning Wales ar BBC Radio Wales o Gaerdydd cyn symud i'r gogledd wrth gyflwyno Good Evening Wales o Fangor.

Roedd yn cyflwyno Post Prynhawn ar Radio Cymru yn achlysurol, ynghyd â nifer o raglenni eraill. Roedd hefyd yn llais cyfarwydd ar Radio 3 yn cyflwyno cyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Canwr y Byd Caerdydd.

Roedd hi'n gweithio'n llawrydd fel cyflwynydd, cynhyrchydd a hyfforddwraig ym myd y cyfryngau.

Fe gyflwynodd gyfres ar S4C - Hanes Cymru a'r Môr - yn dilyn hanes morwrol y wlad.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Sian Pari Huws wedi marw". BBC Cymru. 2015-11-20. Cyrchwyd 2015-11-29.