Siart llinell

(Ailgyfeiriad o Siartiau llinell)

Mae siart llinell neu 'graff llinell' yn fath o siart sy'n dangos gwybodaeth fel cyfres o bwyntiau data o'r enw 'marcwyr', sy'n cysylltu segmentau neu rannau o linell.

Enghraifft o siart llinell.

Dyma'r math symlaf a mwyaf sylfaenol o'r holl siartiau a geir, ac fe'i defnyddir mewn sawl maes. Defnyddir siart llinell yn aml i weld tueddiad mewn data dros gyfnod o amser - a elwir yn 'gyfres amser' - felly mae'r linell yn aml yn cael ei thynnu'n gronolegol. Yn yr achosion hyn fe'u gelwir yn "siartiau rhedeg".[1][2]

Credir mai Francis Hauksbee (1660–1713), Nicolaus Samuel Cruquius (1678–1754), Johann Heinrich Lambert (1728–1777) a William Playfair (1759–1823) a ddefnyddiodd y siart llinell gyntaf.[3]

Enghraifft

golygu

Yn y gwyddorau arbrofol, mae'r data a gesglir o arbrofion yn aml yn cael ei arddangos ar ffurf graff. Er enghraifft, pe gesglid data ar gyflymder cerbyd ar adegau penodol, gellid arddangos y data fel hyn:

 
Enghraifft o siart llinell: cyflymder (milltir y fetr) ar echel-y ac amser ar echel-x.
Treigliad amser (eil. neu s) Cyflymder (m s−1)
0 0
1 3
2 7
3 12
4 20
5 30
6 45.6

Mae'r tabl yma'n dangos yn effeithiol yr union werthoedd, ond gall fod yn ffordd aneffeithiol o ddeall y patrymau sylfaenol y mae'r gwerthoedd hynny'n eu cynrychioli.

Cynorthwyir y broses a ddisgrifir gan y data yn y tabl trwy gynhyrchu graff neu siart llinell o Gyflymder yn erbyn Amser. Mae delweddu o'r fath yn ymddangos yn y ffigur i'r dde.

Yn fathemategol, os ydym yn dynodi amser gan y newidyn  , a chyflymder trwy  , yna byddai'r ffwythiant sy'n cael ei blotio yn y graff yn cael ei ddynodi   sy'n nodi bod   (y newidyn dibynnol) yn ffwythiant o  .

Cyfeiriadau

golygu
  1. Burton G. Andreas (1965). Experimental psychology; tud.186
  2. Neil J. Salkind (2006). Statistics for People who (think They) Hate Statistics: The Excel Edition; tud. 106.
  3. Michael Friendly (2008). "Milestones in the history of thematic cartography, statistical graphics, and data visualization" Archifwyd 2018-09-26 yn y Peiriant Wayback. pp 13–14. Adalwyd 7 Gorffennaf 2008.