Tref fechan nad yw'n llawer mwy na phentref mawr ond sy'n un o borthladdoedd pysgota pwysicaf Tiwnisia yw Sidi Daoud.

Sidi Daoud
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNabeul Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau37°N 10.9°E Edit this on Wikidata
Cod post8016 Edit this on Wikidata
Map

Gorwedd yn y Cap Bon ar lan ddwyreiniol Gwlff Tiwnis, tua hanner ffordd rhwng Korbous ac El Haouaria, tua 60 km i'r dwyrain o'r brifddinas, Tiwnis.

Mae'n gartref i fflyd o gychod pysgota. Ceir ffatri prosesu yno sy'n cyflenwi pysgod tun - tiwna a sardîns yn bennaf - i'r farchnad yn Nhiwnisia a thramor.

Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.