Mae talaith (gouvernorat) Nabeul (Arabeg: ولاية نابل), a greuwyd ar 21 Mehefin1956 ac a alwyd yn Dalaith Cap Bon o 25 Medi1957 hyd 17 Medi1964, yn un o 24 talaith Tiwnisia. Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain y wlad gyda arwynebedd tir o 2788 km² (1.7% o arwynebedd y wlad). Mae ganddi boblogaeth o 714,300 o bobl. Ei phrifddinas yw dinas Nabeul (Grombalia rhwng 1957 a 1964, ar gyfer talaith Cap Bon). Yn ddaearyddol mae'r dalaith yn cyfateb i benrhyn Cap Bon ei hun.