Mae Korbous yn spa (lle â ffynhonnau iachusol ynddo) ar arfordir gogledd-ddwyrain Tiwnisia yn ardal Cap Bon. Gorwedd y dref fechan ar lan Gwlff Tiwnis tua 60 km i'r dwyrain o'r brifddinas Tiwnis, rhwng Soliman a Sidi Daoud.

Korbous
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNabeul Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Uwch y môr1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.8164°N 10.5686°E Edit this on Wikidata
Cod post8041 Edit this on Wikidata
Map

Yn weinyddol mae Korbous yn rhan o dalaith Nabeul, a chafodd ei chyhoeddi'n dref gynghor ar 20 Mai 1982, gyda phoblogaeth o 3551 o bobl (cyfrifiad 2004), gan gynnwys yr ardal o'i chwmpas.

Wedi ei hadeiladu ar lethrau mynydd ar hyd yr unig ffordd sy'n rhedeg trwyddi, rhwng y mynydd hwnnw a'r môr, roedd Korbous eisoes yn gyrchfan poblogaidd gan drigolion y Carthago Rufeinig. Deuai trigolion Carthago yno mewn llongau arfordirol dros Gwlff Tiwnis i ymdrochi a "chymryd y dyfroedd." Fe'i galwyd yn Aquae Calideae Carpitanae ('Dyfroedd Carpis', ar ôl tref fechan arall gerllaw), oherwydd fod ffynhonnau poeth yn byrlymu o'r ddaear yno (ar dymheredd o dros 50 °C); ceir sawl darn o gerflun a gwaith carreg arall o'r cyfnod Rhufeinig o Korbous, ynghyd ag arysgrif Lladin, sydd i'w gweld yn Amgueddfa'r Bardo yn Nhiwnis heddiw. Ond ar ôl goresgyn Tiwnisia gan yr Arabiaid yn y 7g, syrthiodd y spa i ebargofiant gan bawb heblaw'r bobl leol. Yn y 19g, rhoes Ahmed I Bey, rheolwr Tiwnisia, hwb i'r dref trwy godi plas iddo'i hun yno a daeth Korbous yn gyrchfan poblogaidd eto.

Erbyn heddiw mae Korbous yn lle sy'n boblogaidd gan drigolion dosbarth canol Tiwnis i ddianc am ychydig o ddyddiau i ymdrochi yn ei dyfroedd. Honnir fod y ffynhonnau poeth, sy'n llawn soda a chlorîn, a'r dŵr swffwrig oer yn dda at grucgymalau ac athritis.

Mae ffordd arfordirol yn cysylltu Korbous â Soliman a Thiwnis i'r gorllewin ac ag Ain Atrous (safle spa arall) i'r dwyrain, lle mae'r ffynhonnau poeth yn dod allan yn y môr ei hun.

Ymdrochfa mewn un o'r ffynhonnau poeth

Prif ffynhonnau golygu

(Ystyr aïn yw 'ffynnon').

  • Aïn Arraka
  • Aïn El Fakroun
  • Aïn El Kébira
  • Aïn Kallasira
  • Aïn Khfa
  • Aïn Oktor
  • Aïn Sbya