Roedd Sidney Edward Paget (4 Hydref 1860 - 28 Ionawr 1908) yn arlunydd Seisnig sydd mwyaf enwog am ei ddarluniau ar gyfer straeon Sherlock Holmes gan Arthur Conan Doyle yng nghylchgrawn The Strand.[1]

Sidney Paget
Ganwyd4 Hydref 1860 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ionawr 1908 Edit this on Wikidata
Margate Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethdarlunydd, arlunydd Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Paget yn Clerkenwell yn blentyn i Robert Paget, clerc a Martha (née Clarke), darlithydd cerddoriaeth. Cafodd ei addysgu yn ysgol yr Academi Frenhinol. Roedd dau o'i frodyr, Henry Marriott Paget (1856–1936) a Walter Stanley Paget (1863–1935), hefyd yn arlunwyr llwyddiannus.[2]

Gyrfa golygu

Ymddangosodd lluniau Paget yn The Strand Magazine, Pictorial World, The Sphere, The Graphic, The Illustrated London News, a The Pall Mall Magazine, a daeth ei waith yn adnabyddus yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Darparodd ddarluniau ar gyfer straeon ditectif Martin Morrison gan Arthur Hewitt, a gwaith Sherlock Holmes gan Arthur Conan Doyle, gan wneud llawer i boblogeiddio'r ddwy gyfres.[3]

Mae Paget yn cael ei gofio orau fel crëwr y ddelwedd boblogaidd o Sherlock Holmes ar gyfer gyhoeddiadau gwreiddiol straeon Conan Doyle yn y Strand Magazine. Cafodd ei gyflogi’n wreiddiol i ddarlunio The Adventures of Sherlock Holmes, cyfres o ddeuddeg stori fer a oedd yn rhedeg rhwng Gorffennaf 1891 a Mehefin 1892.

Ym 1893, darluniodd Paget The Memoirs of Sherlock Holmes, a gyhoeddwyd yn The Strand fel penodau pellach o'r Adventures.[4] Pan adfywiodd Syr Arthur Conan Doyle gyfres Sherlock Holmes gyda The Hound of the Baskervilles, a gyfreswyd yn The Strand ym 1901–02, gofynnodd yn benodol am i Paget fod yn ddarlunydd. Aeth Paget ymlaen i ddarlunio cyfres stori fer arall, The Return of Sherlock Holmes, ym 1903–04. Rhwng popeth, lluniodd un nofel Holmes a 37 stori fer Holmes. Mae ei ddarluniau wedi dylanwadu ar ddehongliadau o'r ditectif mewn ffuglen, ffilm a drama.

Daeth The Strand yn un o gylchgronau ffuglen enwocaf Prydain Fawr, gyda chyfres Holmes yn nodwedd fwyaf poblogaidd. Wrth i boblogrwydd Holmes dyfu, daeth lluniau Paget yn fwy ac yn fwy cywrain. Gan ddechrau gyda "The Adventure of the Final Problem" ym 1893, roedd bron pob stori Holmes yn The Strand yn cynnwys llun tudalen lawn yn ogystal â llawer o rai llai.[5]

Paget oedd y cyntaf i roi ei gap hela ceirw a chlogyn Inverness i Holmes - manylion na chrybwyllwyd erioed yn y straeon a'r nofelau. Mae'r cap a'r clogyn yn ymddangos gyntaf mewn llun ar gyfer "The Boscombe Valley Mystery" ym 1891 ac yn ailymddangos yn "The Adventure of Silver Blaze" ym 1893. Maent hefyd yn ymddangos mewn ychydig o ddarluniau o The Return of Sherlock Holmes. (Ychwanegwyd y bibell calabash crwm gan yr actor llwyfan William Gillette.)

Gwnaeth Paget tua 356 o luniau ar gyfer cyfres Sherlock Holmes. Daeth ei ddarluniau o Holmes yn eiconig a gorfodwyd darlunwyr eraill i ddynwared ei arddull yn eu darluniau eu hunain o Holmes.

Mae set gyflawn o rifynnau'r Strand sy'n cynnwys straeon darluniadol Sherlock Holmes yn un o eitemau casglwr prinnaf a drutaf yn hanes cyhoeddi. Gwerthwyd llun gwreiddiol Paget 6.75 x 10.5-modfedd o "Holmes a Moriarty Mewn Brwydr Farwol ar Ymyl Rhaeadr Reichenbach " gan Sotheby's yn Efrog Newydd ar 16 Tachwedd 2004 am $ 220,800.[6]

Gwasanaethodd fel aelod o Gyngor Plwyf King's Langley.[7]

Teulu golygu

Priododd Edith Hounsfield merch William Hounsfield, ffarmwr ym 1893 bu iddynt pedair merch a dau fab.[1]

Marwolaeth golygu

Bu farw yn Margate yn 47 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent East Finchley.[1]

Oriel golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Paget, Sidney Edward (1860–1908), painter and illustrator | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/35359. Cyrchwyd 2020-02-20.
  2. "Sidney Paget - The Arthur Conan Doyle Encyclopedia". www.arthur-conan-doyle.com. Cyrchwyd 2020-02-20.
  3. "Illustrations of Arthur Conan Doyle's Sherlock Holmes stories by Sidney Paget". www.victorianweb.org. Cyrchwyd 2020-02-20.
  4. "Sidney Paget's Illustrations". Sherlockian.net. Cyrchwyd 2020-02-20.
  5. "History | Strand Magazine". Strand Mag. Cyrchwyd 2020-02-20.
  6. "Sotheby's Sale in New York". www.sherlock-holmes.co.uk. Cyrchwyd 2020-02-20.
  7. "Sidney Edward Paget" (PDF). Cyngor King's Langley.