Sherlock Holmes
Mae Sherlock Holmes yn dditectif preifat ffuglen a grëwyd gan yr awdur Albanaidd Syr Arthur Conan Doyle. Gan gyfeirio ato'i hun fel ditectif ymgynghorol yn y straeon, mae Holmes yn adnabyddus am ei hyfedredd gydag arsylwi, didynnu, gwyddoniaeth fforensig, a rhesymeg.[1] Mae'n defnyddio ei ddoniau wrth ymchwilio i achosion ar gyfer amrywiaeth eang o gleientiaid, gan gynnwys Scotland Yard.
Sherlock Holmes | |
---|---|
Ganwyd | 6 Ionawr 1854 |
Man preswyl | 221B Baker Street |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | ditectif prifat |
Gwobr/au | Légion d'honneur |
Cefndir
golyguFe wnaeth Holmes ei ymddangosiad cyntaf mewn print yn A Study in Scarlet ym 1887 . Daeth y cymeriad yn hynod boblogaidd wedi i'r gyfres gyntaf o straeon byrion cael eu cyhoeddi yn The Strand Magazine, gan ddechrau gyda A Scandal in Bohemia ym 1891. Ymddangosodd straeon ychwanegol o hynny tan 1927. Cyhoeddwyd cyfanswm o bedair nofel a 56 stori fer. Mae'r cyfan namyn un o'r storïau wedi eu gosod yn y cyfnod Fictoraidd neu Edwardaidd, rhwng tua 1880 a 1914. Adroddir y mwyafrif gan ffrind a chofiannydd Holmes, Dr John H. Watson, sydd fel arfer yn cynorthwyo Holmes yn ystod ei ymchwiliadau. Mae Watson, am gyfnod, yn rhannu tŷ gyda Holmes yn 221B Baker Street, Llundain, lle mae llawer o'r straeon yn cychwyn.[2]
Sherlock Holmes yw'r ditectif ffuglen fwyaf adnabyddus yn y byd.[3] Erbyn y 1990au roedd eisoes dros 25,000 o addasiadau llwyfan, ffilmiau, cynyrchiadau teledu a chyhoeddiadau yn cynnwys y ditectif.[4] Mae Guinness World Records yn ei restru fel y cymeriad dynol llenyddol sydd wedi cael ei bortreadu fwyaf yn hanes ffilm a theledu.[5] Mae'r cymeriad a'r straeon wedi cael effaith ddwys a pharhaol ar ysgrifennu dirgelwch a diwylliant poblogaidd yn ei gyfanrwydd. Mae'r straeon gwreiddiol ynghyd â miloedd a ysgrifennwyd gan awduron heblaw Conan Doyle wedi'u haddasu yn ddramâu llwyfan a radio, teledu, ffilmiau, gemau fideo, a chyfryngau eraill am dros gan mlynedd.
Bywgraffiad
golyguTeulu a bywyd cynnar
golyguMae sylw am oedran Holmes yn His Last Bow yn gosod blwyddyn ei eni tua 1854; mae'r stori, a osodwyd ym mis Awst 1914, yn ei ddisgrifio fel dyn 60 mlwydd oed. Rhoddodd y Baker Street Irregulars, y clwb edmygwyr Holmes cyntaf yn y byd, dyddiad geni o 6 Ionawr 1854 iddo.[6] Mae bwrdd twristiaeth dinas Portsmouth yn honni bod Holmes wedi ei eni yn y ddinas. Ond yn seilio ei honiad ar y ffaith bod Arthur Conan Doyle yn byw yno pan ysgrifennodd ei lyfr Holmes cyntaf.[7]
Does dim son yn y llyfrau am ei rieni, er bod Holmes yn dweud mai sgweieriaid gwledig oedd ei hynafiaid. Yn The Adventure of the Greek Interpreter, mae'n honni bod ei nain yn chwaer i'r arlunydd Ffrengig Vernet, ond dim yn dweud pa un o'r tri artist yn y teulu Vernet ydoedd. Mae gan Sherlock brawd sydd 7 mlynedd yn hyn nag ef o'r enw Mycroft Holmes. Mae Mycroft yn was sifil, ac yn ôl Sherlock yn llawer mwy clyfar nag ef.[8]
Does dim manylion am ble dderbyniodd ei addysg ond fe dderbyniodd addysg brifysgol. Dywed Holmes iddo ddatblygu ei ddulliau didynnu fel myfyriwr israddedig yn gyntaf; daeth ei achosion cynharaf, a ddilynodd fel amatur, gan gyd-fyfyrwyr prifysgol.[9]
Bywyd gyda Watson
golyguMae anawsterau ariannol yn arwain Holmes a Dr Watson i rannu ystafelloedd gyda'i gilydd yn 221B Baker Street, Llundain. Mae eu preswylfa yn cael ei gadw gan ei lletywraig, Mrs. Hudson. Mae Holmes yn gweithio fel ditectif am 23 mlynedd, gyda Watson yn ei gynorthwyo am 17 o'r blynyddoedd hynny. Mae'r rhan fwyaf o'r straeon yn cael eu hysgrifennu o safbwynt Watson, fel crynodebau o achosion mwyaf diddorol y ditectif. Mae Holmes yn aml yn galw cofnodion Watson o'i achosion yn gyffrous ac yn boblogaidd, gan awgrymu eu bod yn methu ag adrodd yn gywir ac yn wrthrychol am wyddoniaeth ei grefft:
Mae Watson yn gadael Baker Street pan mae o'n priodi Mary Moran ym 1889 ac yn dychwelyd ar ôl marwolaeth Mary ym 1903.[10]
Gelynion Holmes
golyguYr Athro James Moriarty [11] yw prif elyn Sherlock Holmes. Mae Moriarty yn cyflawni llawer o droseddau. Mae'n athrylith fathemategol a bu'n gweithio mewn prifysgol fach yn Lloegr, cyn iddo roi'r gorau iddi a symud i Lundain. Yno daeth yn arweinydd trosedd cyfundrefnol ac yn her i alluoedd ymchwilio Sherlock Holmes a oedd yn ystyried yr athro yn ddeallusol gydradd iddo. Mae Sherlock Holmes yn erbyn Moriarty yn cynrychioli un o'r brwydrau mwyaf o graffter, deallusrwydd, yn hanes y byd llên. Byddai Holmes yn siarad yn aml am athrylith Moriarty mewn edmygedd er gwaethaf arswyd ei droseddau.
Ymhlith gelynion eraill Holmes mae prif lofrudd Moriarty, y Cyrnol Sebastian Moran:[12] The Adventure of the Empty House; Dr Grimesby Roylott: The Adventure of the Speckled Band; Roger Baskerville / Jack Stapleton: The Hound of the Baskervilles; Charles Augustus Milverton: The Adventure of Charles Augustus Milverton; John Clay: The Adventure of the Red headed League ac Irene Adler: A Scandal in Bohemia
Lladdodd Conan Doyle Holmes mewn brwydr olaf gyda'r Athro Moriarty yn "The Final Problem" (a gyhoeddwyd ym 1893, ond a osodwyd ym 1891), gan fod Conan Doyle yn teimlo "na ddylid cyfeirio fy egni llenyddol yn ormodol i un sianel". Mae'r ddau yn marw trwy syrthio oddi ar Raeadr Reichenbach yn y Swistir wrth ymladd ei gilydd.
Ar ôl gwrthsefyll pwysau cyhoeddus am wyth mlynedd, ysgrifennodd Conan Doyle The Hound of the Baskervilles (cyfreswyd ym 1901–02, ond wedi ei osod cyn marwolaeth Holmes). Ym 1903, ysgrifennodd Conan Doyle "The Adventure of the Empty House"; a osodwyd ym 1894, mae Holmes yn ailymddangos, gan esbonio i Watson ei fod wedi ffugio ei farwolaeth i dwyllo ei elynion. Yn dilyn The Adventure of the Empty House, byddai Conan Doyle yn ysgrifennu straeon Holmes newydd yn achlysurol tan 1927.
-
Plac Holmes ger y rhaeadr
-
Moriarty gan Sidney Paget
-
Sherlock Holmes a'r Athro Moriarty yn Rhaeadr Reichenbach Sidney Paget
-
"Rhaeadr Fawr y Reichenbach, yn Nyffryn Hasle, y Swistir" (1804, dyfrlliw ar bapur) gan J.M.W. Turner
Ymddeoliad
golyguYn His Last Bow, dywedir wrth y darllenydd fod Holmes wedi ymddeol i fferm fach ar y Sussex Downs ac wedi cymryd at gadw gwenyn fel ei brif alwedigaeth. Nid yw'r ymddeoliad wedi'i ddyddio'n fanwl, ond gellir tybio nad yw'n hwyrach na 1904 (gan y cyfeirir ato yn dal i weithio yn "The Adventure of the Second Stain", a gyhoeddwyd gyntaf y flwyddyn honno). Mae'r stori'n cynnwys Holmes a Watson yn dod allan o'u hymddeoliad i gynorthwyo ymdrech ryfel Prydain. Dim ond un antur arall, "The Adventure of the Lion's Mane", sy'n digwydd yn ystod ymddeoliad y ditectif.
Merched yn ei fywyd
golyguNi fu mewn perthynas rhamantus â menyw erioed. Yn ei eiriau ei hun, "Dwi erioed wedi caru ..."
Yn "A Scandal in Bohemia", yr unig achos lle mae'n methu, mae ymddangosiad yr unig fenyw a ystyriodd yn gyfartal yn ddeallusol a'r unig fenyw a'i trechodd erioed. Ei henw yw Irene Adler.[13] Cafodd ei geni yn New Jersey ac roedd hi'n gantores opera. Cafodd berthynas Irene perthynas rhamantaidd gyda brenin Bohemia.
Mae agwedd Holmes i fenywod yn sarhaus. Mae o'n credu bod merched yn poeni gormod am bethau dibwys a bod eu cymelliadau yn annealladwy. Mae'n credu na ddylai dyn ymddiried mewn merched gan eu bod yn greaduriaid anonest. Er bod y gred bod merched yn israddol i ddynion yn gyffredin yn ei gyfnod, mae agwedd Holmes yn waeth na'r cyffredin. Mae hyd yn oed Watson yn nodi bod ei agwedd yn erchyll. Er hynny pan fo Holmes yng nghwmni merched mae'n eu trin yn gwrtais ac mewn modd bonheddig. Does dim yn ei diffyg hoffter o fenywod i awgrymu ei fod yn hoyw. (Byddai bod yn hoyw yn anghyfreithiol yn ei ddydd a byddai ysgrifennu am arwr hoyw yn sgandal). Mae ei agwedd yn bennaf oherwydd ei fod yn ddyn oer sy'n casáu emosiwn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "DIC FI A SAM - Y Clorianydd". David Williams. 1906-11-29. Cyrchwyd 2020-02-19.
- ↑ GradeSaver. "A Study in Scarlet Summary | GradeSaver". www.gradesaver.com. Cyrchwyd 2020-02-19.
- ↑ "Sherlock Holmes, the world's most famous literary detective". The British Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-28. Cyrchwyd 2020-02-19.
- ↑ BBC. "A star comes to Huddersfield!". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-02-19.
- ↑ "Sherlock Holmes awarded title for most portrayed literary human character in film & TV". Guinness World Records. 2012-05-14. Cyrchwyd 2020-02-19.
- ↑ Sherlock Holmes’ Birthday - How the Date Was Fixed, How Fans Celebrate It Today Archifwyd 2020-02-19 yn y Peiriant Wayback adalwyd 19 Chwefror 2020
- ↑ Visit Portsmouth - Sherlock Holmes was born in Portsmouth Archifwyd 2020-02-19 yn y Peiriant Wayback adalwyd 19 Chwefror 2020
- ↑ "Mycroft Holmes". The Conan Doyle Estate. Cyrchwyd 19 Chwefror 2020.
- ↑ The Musgrave Ritual adalwyd 19 Chwefror 2020
- ↑ Eyles, Allen. (1986). Sherlock Holmes : a centenary celebration (arg. 1st U.S. ed). New York: Harper & Row. ISBN 0-06-015620-1. OCLC 13457127.CS1 maint: extra text (link)
- ↑ "A Arthur Conan Doyle Character Professor James Moriarty". The Official Conan Doyle Estate Ltd. Cyrchwyd 2020-02-19.
- ↑ "An Arthur Conan Doyle Character Colonel Sebastian Moran - Official Conan Doyle Character". The Official Conan Doyle Estate Ltd. Cyrchwyd 2020-02-19.
- ↑ "Irene Adler - Official Conan Doyle Character". The Official Conan Doyle Estate Ltd. Cyrchwyd 2020-02-19.