Sidney Robinson
Roedd Sidney Robinson (6 Ionawr 1863 - 6 Rhagfyr 1956) yn wleidydd Rhyddfrydol ac yn fasnachwr coed.
Sidney Robinson | |
---|---|
Ganwyd | 6 Ionawr 1863 |
Bu farw | 6 Rhagfyr 1956 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Cefndir
golyguRoedd Sidney Robinson yn bedwerydd mab i John Robinson o Backwell House, Gwlad yr Haf. Cafodd ei addysg yn ysgol Mill Hill. Priododd yn 1887 a Flora Catherine Grant o Gaerdydd. Bu hi farw ym 1935.
Gyrfa busnes
golyguYm 1880, symudodd Robinson o'i gartref teuluol yng Ngwlad yr Haf i Gaerdydd i weithio yn y fasnach goed gyda chwmni John Grant & Co. Yn ddiweddarach prynodd y cwmni ac yna daeth yn bartner gyda T W David. Ail-enwyd y busnes yn Robinson, David & Co. Etholwyd ef yn Llywydd Cymdeithas Mewnforwyr Coed Môr Hafren.[1]
Gyrfa wleidyddol
golyguYm 1895 cafodd ei ethol yn aelod Rhyddfrydol o Gyngor Tref Caerdydd i gynrychioli Ward Sblot. Safodd i lawr o'r Cyngor ym 1901, ond parhaodd i fod yn weithgar yng ngwleidyddiaeth Ryddfrydol Caerdydd trwy wasanaethu fel Llywydd Cymdeithas Ryddfrydol y dref [2]. Cafodd ei ethol i Dy’r Cyffredin ar ei ymgais gyntaf i gynrychioli etholaeth Sir Frycheiniog yn Etholiad cyffredinol 1906 a chafodd ei ail-ethol yn yr Etholiad cyffredinol canlynol.
Bu newid yn ffiniau etholaethau canolbarth Cymru ar gyfer etholiad cyffredinol 1918 lle unwyd etholaethau Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed i greu etholaeth newydd Brycheiniog a Maesyfed. Bu ymgiprys rhwng Robertson ac AS Rhyddfrydol Maesyfed, Syr Francis Edwards ar gyfer ymgeisyddiaeth y blaid yn yr etholaeth newydd, gyda Robertson yn ennill yr enwebiad yn ddiwrthwynebiad ar ôl i Edwards tynnu allan o'r ras.
Cafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel aelod cyntaf y sedd newydd.[3] Ymddeolodd o'r Senedd ar adeg etholiad Cyffredinol 1922
Y tu allan i'r Senedd bu Robinson yn cyfrannu at fywyd cyhoeddus trwy wasanaethu ar y fainc fel Ynad Heddwch. Ym 1907 fe'i penodwyd i fainc Morgannwg ac o 1911, bu'n gwasanaethu fel Ynad Heddwch yn Wiltshire a Gwlad yr Haf .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3416327/ART175 adalwyd Ion 4 2014
- ↑ http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3420956/ART188 adalwyd Ion 4 2014
- ↑ http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3979651/ART36 adalwyd Ion 4 2014
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Charles Morley |
Aelod Seneddol dros Sir Frycheiniog 1906 – 1918 |
Olynydd: diddymu yr etholaeth |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Frycheiniog a Maesyfed 1918 – 1922 |
Olynydd: William Albert Jenkins |