William Albert Jenkins

brocer llongau a gwleidydd

Roedd Syr William Albert Jenkins (9 Medi 187823 Hydref 1968) yn farsiandwr glo yn brocer llongau ac yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed.[1]

William Albert Jenkins
William Albert Jenkins (© Oriel Portreadau Genedlaethol, Llundain)
Ganwyd9 Medi 1878 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw23 Hydref 1968 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrocer llongau, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Bywyd Personol

golygu

Ganwyd Jenkins yn Abertawe yn fab i Daniel Jenkins, gweithiwr rheilffordd ac Elizabeth Ann (née Lang) ei wraig.

Ym 1906 priododd Beatrice Tyler bu hi farw ym 1967.

Yn 13 mlwydd oed aeth Jenkins i weithio fel gwas bach yn swyddfa'r dociau yn Abertawe lle magodd wybodaeth drylwyr o'r diwydiannau glo a llongau. Yn ddiweddarach sefydlodd ei fusnes ei hun W A Jenkins & Co, cwmni cyfanwerthu glo a golosg a broceriaid llongau. Bu i'r busnes ehangu'n sylweddol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwasanaethodd am flynyddoedd lawer fel Llywydd Siambr Fasnach Abertawe, bu hefyd yn Cymrawd Sefydliad y Broceriaid Llongau Siartredig.[2]

Gyrfa Wleidyddol

golygu

Aelod Senedd

golygu

Cafodd Jenkins ethol i Senedd San Steffan yn etholiad cyffredinol 1922 fel Rhyddfrydwr Cenedlaethol i gynrychioli etholaeth Frycheiniog a Sir Faesyfed. Yn etholiad cyffredinol 1923 cafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel Rhyddfrydwr. Collodd y sedd yn etholiad cyffredinol 1924 i Walter D'Arcy Hall, yr ymgeisydd Ceidwadol. Yn ystod ei gyfnod yn y Senedd bu Jenkins yn gyfrannwr at drafodaethau yn ymwneud â chwestiynau diwydiannol a materion Cymreig.

Safodd fel ymgeisydd eto ym 1936 mewn isetholiad yn etholaeth Llanelli pan safodd fel ymgeisydd y Rhyddfrydwyr Cenedlaethol gyda chefnogaeth y Rhyddfrydwr a'r Ceidwadwyr. Collodd y frwydr i Jim Griffiths yr ymgeisydd Llafur.

Gwleidyddiaeth leol a gwasanaethau cyhoeddus

golygu

Gwasanaethodd Jenkins fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Abertawe rhwng 1927 a 1954 gan wasanaethu fel Faer y dref rhwng 1947 a 1949. Ym 1928 cafodd ei benodi'n Ynad Heddwch dros Sir Forgannwg a bu'n Gadeirydd ar Fainc Ynadon, Gŵyr

Bywyd cyhoeddus amgen

golygu

Gwasanaethodd Jenkins mewn nifer o swyddi cyhoeddus gan gynnwys:

Anrhydeddau

golygu

Urddwyd Jenkins yn farchog yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 1938. Cafodd ei urddo yn Farchog Urdd Sant Ioan a Llywydd Urdd Sant Ioan yn nosbarth Abertawe. Ym 1933 fe'i urddwyd yn Farchog Dosbarth 1af Urdd Dannebrog (Denmarc); derbyniodd Groes Aur Urdd Brenhinol Sior I (Gwlad Groeg) ym 1938 ac Urdd Chevalier de la Légion d'Honneur (Ffrainc) ym 1949 [3]

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn Abertawe yn 90 mlwydd oed.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Bywgraffiadur JENKINS , Syr WILLIAM ALBERT ( 1878 - 1968 ) [1] adalwyd 22 Ionawr 2016
  2. "Sir William Jenkins." Times [London, England] 26 Oct. 1968: 12. The Times Digital Archive. Web. 22 Jan. 2016.[2]
  3. ‘JENKINS, Sir William (Albert)’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 accessed 22 Jan 2016
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Sidney Robinson
Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed
19221923
Olynydd:
Walter D'Arcy Hall