Y Sblot
Ardal yn ninas Caerdydd, prifddinas Cymru, yw Y Sblot neu Sblot (Saesneg: Splott) ac ardal ddeheuol hen blwyf Y Rhath sydd wedi'i lleoli rhwng y môr a phrif lein y rheilffordd. Agorwyd y cyntaf o feysydd awyr sifil Cymru ar Rostir Pen-Gam yn 1930 a'i chau yn 1954. Bellach, ceir yma: barciau busnes, tai, gwaith trin dŵr a Chanolfan Tennis Genedlaethol Cymru. Cwbwlhawyd Cysylltffordd Dwyrain y Bae ar ddechrau'r 2010au a disgwylir i'r ardal ddatblygu'n economaidd.[1]
Math | maestref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 7,509 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.48357°N 3.15349°W |
Cod SYG | W04001005 |
Cod OS | ST200767 |
Cod post | CF24 |
AS/au | Stephen Doughty (Llafur) |
Yr enw
golyguDaw'r enw o'r gair Hen Saesneg splott sy'n golygu 'darn o dir' (plot). Arosai'r enw'n fyw ar lafar yn ne-orllewin Lloegr am glwt o dir ac mae'n digwydd mewn enwau lleoedd am gaeau a ffermydd yn yr ardal honno. Dichon i'r enw tarddu o gyfnod y Normaniaid. Ei ystyr yn syml felly yw 'clwt' neu 'ddryll' o dir. Ceir manylion pellach yn llyfr Bedwyr Lewis Jones, Yn ei Elfen.
Hanes
golyguArdal wledig a oedd yn eiddo i'r Eglwys oedd Sblot yn y Canol Oesoedd, ond erbyn 1891 roedd tai wedi eu hadeiladu ar gyfer gweithwyr gwaith dur East Moors ond caewyd y gwaith yn 1987.
Ffuglen
golygu- Siôn Eirian, Bob yn y Ddinas. Nofel am gymeriadau Sblot.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
- Adamsdown
- Caerau
- Castell
- Cathays
- Cyncoed
- Y Ddraenen
- Yr Eglwys Newydd
- Gabalfa
- Glan'rafon
- Grangetown
- Hen Laneirwg
- Llandaf
- Llanedern
- Llanisien
- Llanrhymni
- Llys-faen
- Y Mynydd Bychan
- Pen-twyn
- Pen-tyrch
- Pen-y-lan
- Pontcanna
- Pontprennau
- Radur a Threforgan
- Y Rhath
- Rhiwbeina
- Sain Ffagan
- Y Sblot
- Tongwynlais
- Tre-biwt
- Tredelerch
- Treganna
- Trelái
- Tremorfa
- Trowbridge
- Y Tyllgoed
- Ystum Taf