Sierra Nevada (Sbaen)
Mynyddoedd yn Andalucía, Sbaen, yw'r Sierra Nevada (Sbaeneg:"Mynyddoedd Eiraog"). Y copa uchaf yw Mulhacén, 3,479 medr, y copa uchaf yn Sbaen gyfandirol.
Math | cadwyn o fynyddoedd, mynyddoedd nad ydynt yn gysylltiedig, yn ddaearegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Sierra Nevada National and Natural Park, Sierra Nevada Biosphere Reserve, Sierra Nevada Natural Park |
Sir | Talaith Granada, Talaith Almería |
Gwlad | Sbaen |
Uwch y môr | 3,478 metr |
Cyfesurynnau | 37.0533°N 3.3114°W |
Hyd | 100 cilometr |
Cyfnod daearegol | Tertiary |
Er eu bod mor bell tua'r de, mae uchder y mynyddoedd yn golygu fod canolfannau sgïo poblogaidd yma. Dywed yr awdurdod twristiaeth lleol fod modd sgïo yn y mynyddoedd yn y bore ac ymdrochi ym Môr y Canoldir yn y prynhawn. Y ddinas agosaf yw Granada, gyda Málaga ac Almería ychydig pellach. Mae rhan o'r tiriogaeth yma wedi ei ddynodi fel Parc Cenedlaethol y Sierra Nevada.