Sifan Hassan
Rhedwr pellter canol a phellter hir o'r Iseldiroedd a aned yn Ethiopia yw Sifan Hassan (ganed 1993).[1] Mae hi'n adnabyddus am ei gallu i gystadlu dros bellteroedd gwahanol, gan ennill medalau Olympaidd yn rasys 1,500m, 5,000m, 10,000m a'r marathon.
Sifan Hassan | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ionawr 1993 Adama |
Dinasyddiaeth | Yr Iseldiroedd |
Galwedigaeth | rhedwr pellter-hir, rhedwr pellter canol, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd, rhedwr marathon, mabolgampwr |
Taldra | 170 centimetr |
Pwysau | 49 cilogram |
Gwobr/au | Marchog Urdd Orange-Nassau |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Yr Iseldiroedd |
Daeth Hassan i'r Iseldiroedd fel ffoadur, a daeth yn ddinesydd yr Iseldiroedd yn 2013.[2]
Gyrfa athletau
golyguAr ôl derbyn pasbort yr Iseldiroedd rhedodd Hassan dros ei gwlad newydd ym Mhencampwriaeth Traws Gwlad Ewropeaidd 2013. Enillodd y medal aur dan 23.[3]
Enillodd hi'r medal efydd 1,500m ym Mhencampwriaethau'r Byd 2015, wedyn ennill aur yn ras uwch y Pencampwriaeth Traws Gwlad Ewropeaidd 2015.[4]
Hi oedd deiliad record y byd dros 1500m pan gyrhaeddodd Gemau Olympaidd Tokyo yn 2021, gydag uchelgais i ennill medalau aur 1,500m, 5,000m a 10,000m.[2] Llwyddodd i ennill aur yn y rasys 5,000m a 10,000m ac efydd yn y ras 1,500m.[5]
Yng Ngemau Olympaidd 2024 ym Mharis, enillodd hi fedalau efydd yn y rasys 10,000m a 5,000m. Wedyn ar y dydd olaf, enillodd Hassan y marathon, ar ôl sbrintio'r 200m olaf a phasio'r rhedwr blaen, Tigst Assefa.[5] Hi oedd yr athletwr cyntaf, gwryw neu fenyw, i ennill tair medal mewn tri gornest gwahanol mewn un Gêm Olympaidd ers 1952. Hi hefyd oedd y fenyw gyntaf i ennill medal aur Olympaidd yn y rasys 5,000m, 10,000m a marathon. [6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Sifan HASSAN". World Athletics. Cyrchwyd 12 Awst 2024.
- ↑ 2.0 2.1 Burns, Dan (2 Awst 2021). "Why Sifan Hassan is one to watch at Olympics: Dutch star puts 1,500m on blast, claims 5,000m gold 12 hours later". National Post (yn Saesneg). Toronto. Cyrchwyd 12 Awst 2024.
- ↑ "Third time lucky for Duarte at European Cross as Bezabeh regains title" (yn Saesneg). World Athletics. 8 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
- ↑ Hassan and Kaya victorious at European Cross Country Championships Archifwyd 16 Rhagfyr 2015 yn y Peiriant Wayback. IAAF (13 Rhagfyr 2015). Cyrchwyd 13 Awst 2024.
- ↑ 5.0 5.1 "Hassan wins marathon to claim third Paris medal". BBC Sport (yn Saesneg). 11 Awst 2024. Cyrchwyd 12 Awst 2024.
- ↑ Carayol, Tumaini (11 Awst 2024). "Sifan Hassan caps remarkable Olympics with women's marathon gold by 3 sec". theGuardian.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Awst 2024.