Siff-saff
Siff-saff | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Phylloscopidae |
Genws: | Phylloscopus |
Rhywogaeth: | P. collybita |
Enw deuenwol | |
Phylloscopus collybita (Vieillot, 1817) |
Mae'r Siff-saff neu Siff-siaff (Phylloscopus collybita) yn aelod o deulu teloriaid y dail, Phylloscopidae, ac yn aderyn cyffredin trwy ogledd a chanolbarth Ewrop ac Asia.
Mae'r Siff-saff yn aderyn mudol fel rheol, ond nid yw'n symud cyn belled i'r de â'r rhan fwyaf o'r teloriaid eraill, ac mewn rhai rhannau o orllewin Ewrop mae nifer bychan o adar yn aros trwy'r flwyddyn.
Nyth
golyguAdeiledir y nyth mewn coedydd agored gyda thyfiant is ar gyfer nythu ynddo. Fel rheol mae'n nythu mewn llwyn, ac yn dodwy 4 - 7 wy. Pryfed yw ei brif fwyd, ac mae'n eu dal ym mrigau'r coed.
Adnabod
golyguGall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y Siff-saff a rhai aelodau eraill o'r genws Phylloscopus, er enghraifft Telor yr Helyg. Mae tua 10–12 cm o hyd, yn wyrdd-frown ar y cefn a bron yn wyn oddi tano. Mae'r coesau yn dywyll, yn wahanol i Delor yr Helyg sydd â choesau llawer goleuach, ac mae adenydd y Siff-saff yn fyrrach. Y gân yw'r ffordd hawddaf i'w gwahaniaethu; mae cân y Siff-saff fel ei enw - "siff-saff" yn cael ei ail-adrodd dro ar ôl tro.
Is-rywogaethau
golyguAmbell dro ystyrir yr is-rywogaeth a geir yn Siberia, Phylloscopus (collybita) tristis yn rywogaeth lawn. Yn y rhan fwyaf o Ewrop ceir Phylloscopus collybita collybita ond yn Llychlyn a gogledd Rwsia ceir Phylloscopus collybita abietinus.
Statws yng Nghymru
golyguMae'r Siff-saff yn aderyn cyffredin yng Nghymru, efallai y mwyaf adnabyddus o'r teloriaid. Mae ymhlith y cyntaf o'r adar mudol i ddychwelyd yn y gwanwyn, ac mae nifer bychan ond cynyddol o adar yn treulio'r gaeaf yma.
Cân
golyguEr bod y siff-saff yn gyfarwydd fel un o’r adar sydd gyda’r cyntaf i’n cyrraedd yn y gwanwyn ac i ganu ei siff-siff-siff undonog hawdd ei adnabod, ychydig ohonom efallai sydd yn sylweddoli ei fod yn ail-gydio yn ei gan yn yr hydref hefyd (recrudescence ydi’r gair technegol am hyn). Dyma bori trwy gofnodion Tywyddiadur Llên Natur i weld beth sydd yno am y pwnc - dyma’r dyddiadau yn nodi ei gân hydref: 10 Medi 1977; 30 Medi 1992, 10 Medi 1998, 24 Medi 2005, 5 Hydref 1992, 4 Hydref 2008; 2 Hydref 2009.[1].
Ffeithiau Difyr
golyguDyma gasgliad o waith ymchwil plant Ysgolion Llangoed a Biwmares (Bro Seiriol), Ynys Môn[2]:
- Nid oes barrau ar ei adenydd
- siff-saff, siff saff yw ei gân.
- Llinell olau dros ei llygaid, corff llwyd-wyrdd
- Bydd gloywder y melyn ar ei rannau isaf yn amrywio yn ôl y tymor ac yn ôl yr unigolyn.
- Bol goleuach a'r coesau'n dywyll gan amlaf.
- Galwad (nid cân): Hwit unsill.
- Mae'r enw Lladin yn golygu 'fforiwr dail'.
- Maen nhw'n bwyta dros 1/3 o'u pwysau bob dydd.
- Maen nhw'n bwyta pryfaid a dail
- Maen nhw i’w gweld fwyaf yn yr haf.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bwletin Llên Natur rif 31
- ↑ Gwaith prosiect Menter Môn, Mehefin-Gorffennaf 2019