Sigrid Undset
Roedd Sigrid Undset (20 Mai 1882 – 10 Mehefin 1949) yn nofelydd yn yr iaith Norwyeg, a aned yn Kalundborg, Denmarc.
Sigrid Undset | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mai 1882 Kalundborg |
Bu farw | 10 Mehefin 1949 Lillehammer |
Dinasyddiaeth | Norwy |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofelydd, cyfieithydd, llenor, sgriptiwr, rhyddieithwr, bardd |
Adnabyddus am | Kristin Lavransdatter, Jenny, The Master of Hestviken |
Arddull | nofel hanesyddol |
Tad | Ingvald Undset |
Mam | Charlotte Undset |
Priod | Anders Castus Svarstad |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Order of the Falcon |
Archaeolegwr nodedig oedd ei thad ac mae'n debyg mai trwyddo fo y daeth i ymddiddori yn hanes Norwy yn yr Oesoedd Canol. O 1899 ymlaen gweithiodd mewn swyddfa yn Oslo ac mae'r problemau a wynebai merched ifanc cyfoes yn sail i'w nofelau cynnar, yn cynnwys Jenny (1912).
Mae ei champwaith, Kristin Lavransdatter (3 cyfrol, 1920-1922) yn nofel hanesyddol graffig a realistaidd am gariad a chrefydd yn Norwy'r 14g. Fe'i dilynwyd gan Olav Audunssön (4 cyfrol, 1925-1927), Gymadenia (1929) a Den trofaste hustru ("Y cymar ffyddlon", 1936).
Troes i Gatholigaeth yn 1924, ac wedi hynny dyfnhaodd dyfnder ysbrydol ei gwaith. Dyfarnwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddi yn 1928.