Nofel a chanddi stori wedi ei gosod mewn oes o'r blaen yw nofel hanesyddol. Gallai portreadu digwyddiadau a chymeriadau go iawn neu fod yn naratif gwbl ffuglennol, ond byddai wastad yn tynnu ar themâu sy'n ymwneud â chyfnod hanesyddol penodol.

Nofel hanesyddol
Enghraifft o'r canlynolnovel genre, literary genre by form, dosbarth llenyddol Edit this on Wikidata
Mathnofel, llenyddiaeth hanesyddol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y llenor cyntaf i ddefnyddio'r gorffennol yn gefndir i'w straeon am ramant a brad oedd yr Albanwr Syr Walter Scott. Bu sawl nofelydd Ewropeaidd, gan gynnwys Manzoni, yn dynwared arddull Scott, ac felly datblygodd y nofel hanesyddol fel genre unigryw. Fe'i defnyddid i osod cyd-destun ffeithiol a diddorol i'r darllenwr, ac yn fyd parod llawn antur a drama. Bu rhai o lenorion y 19g yn ysgrifennu nofelau tra chenedlaetholgar gan dynnu ar hanes traddodiadol a mythau cenedlaethol.

Yn yr 20g manteisiodd awduron ar y ffurf hon o'r nofel i ymdrin â syniadau seicolegol a chymdeithasegol am feddylfryd ein hynafiaid, megis Robert Graves yn I, Claudius (1934) a Marguerite Yourcenar yn Mémoires d'Hadrien (1951). Gan amlaf, arbenigai nofelwyr hanesyddol mewn dosbarthiadau penodol o'r genre, rhai ohonynt yn hynod o boblogaidd: y rhamant hanesyddol, nofelau cyfnod y Rhaglywiaeth, anturiaethau morwyr yn Rhyfeloedd Napoleon, straeon y Gorllewin Gwyllt, a'r nofel deuluol.

Nofelau hanesyddol enwog golygu

Cymraeg golygu

Eidaleg golygu

Ffrangeg golygu

Rwseg golygu

Saesneg golygu