Cymeriad ffuglennol a dychanol yw Silvía Night (Islandeg: Silvía Nótt). Enwog yw hi am ei sioe Sjáumst með Silvíu Nótt (Y Sioe Silvía Night), sioe comedi yng Ngwlad yr Iâ. Ar y sioe, byddai yn ypsetio ei gwesteion gyda'i hymddygiad gwarthus. Crëwyd y cymeriad gan Gaukur Úlfarsson ac Ágústa Eva Erlendsdóttir; mae'r diwethaf yn chwarae Silvía Night. Mae Silvía Night yn cyfweld pobl gyda problemau bywyd go iawn. Cynrychiolodd Night Gwlad yr Iâ yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2006 gyda'i chân "Congratulations". Achosodd ei champau, ar-lwyfan a ger-lwyfan, ymryson a sylw cyfryngau'n rhyngwladol. Rhyddhawyd ei halbwm cyntaf, Goldmine yn Ebrill 2007, enillodd yr albwm y lleoliad rhif un yn y siart albymau Gwlad yr Iâ yn Ebrill 233, 2007.

Silvía Night
Ganwyd28 Gorffennaf 1982 Edit this on Wikidata
Reykjavík Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Galwedigaethgohebydd, actor ffilm, canwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auEdda Award for Best Television Personality Edit this on Wikidata

Y cymeriad golygu

Penderfynodd Ágústa Eva Erlendsdóttir, cantores y band Ske ac actores ifanc, anhysbys, a Gaukur Úlfarsson greu cymeriad i ddefnyddio fel alter ego (er enghraifft Ali G o'r DU) sy'n cynnwys yr elfennau gwaethaf cymdeithas fodern. Narsisist yw Night a mae hi'n gweld ei hun fel y mwyaf enwog a'r mwyaf ddawnus person y byd. Ei henw genedigol ydy Silvía Nótt Sæmundsdóttir, mae Silvía yn golygu 'nymff coed' a Nótt yn golygu 'nos'. Cariad Night yw Romario Hugo Estevez o Ariannin, chwaraeir gan Björn Thors. Mae Night yn defnyddio llawer o iaith sathredig a Saesneg gyda acen sy wedi'i gorliwio pan yw hi'n siarad Iseldireg. Mae hi'n hefyd siarad Siapaneg ar ôl gweithiodd hi ar deledu Siapan. Yn Chwefror 2006, pleidleisiwyd Night fel y dynes fwyaf secsi Gwlad yr Iâ. Enillodd ei phortreadwr, Ágústa Eva, bedwerydd.