Sinema'r Commodore, Aberystwyth

sinema yn Aberystwyth

Mae Sinema'r Commodore yn sinema annibynnol deuluol yn Aberystwyth. Dyma'r unig sinema bellach ynghannol y dref.

Sinema'r Commodore, Aberystwyth, 2018

Safa'r sinema ar Stryd y Baddon, sy'n gorwedd yn gyfochrog i Promenad y dre. Perchennod cyfredol y sinema yw Michael Davies, mab y cyn-berchennog, D.M. Davies.

Technegol

golygu

Mae'r adeilad pwrpasol yn cynnwys un sgrîn sinema a thros 400 sedd, gan ei gwneud yn un o ystafelloedd sinema fwyaf yng Nghymru.[1]

Mae'r sinema yn defnyddio taflunydd digidol a system amgylchsain (surround sound) Dolby 7.1. Gall ddangos ffilmiau 3D hefyd.

Mae'n dangos ffilmiau poblogaidd Hollywood gan fwyaf. Gall cynulleidfa sydd yn ymddiddori mewn ffilmiau tramor neu mwy arbenigol y dewis o wylio ffilmiau felly yn sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth sy'n ran o gampws Prifysgol Aberystwyth ar Rhiw Penglais.

Yn ogystal ag ystafell daflunio ceir hefyd bar bychan a siop melysion yn yr adeilad. Ceir hefyd ciosg bychan tu fewn ystafell y sinema.

Yn ogystal â dangos ffilmiau mae'r Commodore hefyd yn cael ei defnyddio'n achlysurol ar gyfer cynadleddau.

Mewn erthygl yn y Western Mail yn 2018 nodwyd bod y Commodore ymysg sinemâu rhataf Cymru. Gyda thocynnau ar y pryd yn £6 (neu £5 ar nos Lun).[2]

Agorwyd Sinema'r Commodore yn 1976. Mae'r adeilad bresennol yn adeilad newydd at bwrpas sinema a saf ar safle hen sinemâu y Celtic a'r Conway.

Agorwyd Sinema'r Conway yn 1961. Dechreuodd yr adeilad fel pwll nofio i fenywod yn yr 1880au hwyr - gan roi rheswm dros enwi'r stryd yn 'Stryd y Baddon'. Daeth yn theatr yn 1946 o dan yr enw the Little Theatre. Dangosa'r ffoto yma o Gasgliad y Werin y sinema ychydig cyn ei dymchwel yn 1976 i wneud lle i adeilad newydd pwrpasol Sinema'r Commodore.[3]

Y Commodore oedd prif sinema Gŵyl Ffilm Rygnwladol Cymru pan cynhaliwyd hi yn y dref yn yr 1990au. Cafwyd Gworb D.M. Davies yn yr Ŵyl ar gyfer y ffilm fer orau o Gymru.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu