Stryd y Baddon, Aberystwyth
Un o brif strydoedd canol trefn Aberystwyth yw Stryd y Baddon (Saesneg: Bath Street). Mae'n rhedeg gyfrochrog i'r Promenâd, rhwng y môr a Stryd Portland.
Math | stryd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Aberystwyth |
Gwlad | Cymru |
Hanes
golyguDatblygwyd y stryd yn ail hanner 19g wrth i'r dref lwyddo i sychu'r morfa oedd wrth droed yr hen dref ganoloesol. Enw gwreiddiol ar y stryd oedd "Newfoundland Street" (h.y. "New Found Land"). Newidiwyd yr enw i "Bath Street" yn y 1890au cynnar.[1] Arferai sinema'r Conway (a newidiwyd wedyn i'r Celtic) sefyll ar y stryd.[2]
Llys y Brenin
golyguYn ffinio ochr ddeheuol Stryd y Baddon a Ffordd y Môr, mae fflatiau a man cyfarfod sgwâr Llys-y-Brenin.
Adeiladwyd yr hen Neuadd y Brenin (King's Hall) yn 1933, ar safle'r hen 'Waterloo Temperance Hotel' (a ddifethwyd yn gyfan gwbl gan dân yn 1919)[3] a nifer o dai eraill. Roedd yn adeilad Art Deco trawiadol bu'n cynnal cyngherddau a digwyddiadau o bob math gan gynnwys hefyd, ceir clatcho a hap-chwarae.
Dymchwelwyd yr adeilad yn 1989[4] ac yn ei le, adeiladu fflatiau Llys-y-Brenin a man agored lle cynhelir digwyddiadau megis Seremoni flynyddol Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth. Ceir yno siopau a lle trin gwallt ar y sgwâr ar y llawr daear a fflatiau uwchben.
Nodweddion
golyguMae'r stryd yn cynnwys tai preifat - sydd yn lletya myfyrwyr a theuluoedd, yn aml mewn fflatiau oddi fewn i'r tai. Mae'r tai yn 3 neu 4 llawr o uchder. Mae'r stryd cynnwys sawl adeilad o bwys i'r dref a'i thrigolion:
- Sinema'r Commodore
- Canolfan Theatr Arad Goch
- Eglwys Saesneg St David's
- Sgwâr Llys-y-Brenin, lle bu Neuadd y Brenin gynt
- Rhan o adeilad Amgueddfa Ceredigion
- Canolfan Fethodistaidd St Paul
- Y Bañera - bar coctêl, ar safle'r hen Ganolfan Groeso
- Golchdy (a llety hunan-ddarpar) Maes-y-Môr
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Archifdy Ceredigion - rhestr o newidiadau i enwau strydoedd Aberystwyth dros amser" (PDF). Cyrchwyd 2018-05-11.
- ↑ https://www.casgliadywerin.cymru/items/26817
- ↑ http://pint-of-history.wales/explore.php?func=showpub&id=273
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-01. Cyrchwyd 2018-05-11.
Dolenni allanol
golygu- Eglwys Bresbyteraidd (Saesneg) St David's
- Canolfan Fethodistaidd St Paul Archifwyd 2019-11-04 yn y Peiriant Wayback
- Y Bañera Archifwyd 2018-09-02 yn y Peiriant Wayback
- Cwmni Theatr Arad Goch