Sinigrin
Glwcosinolad (neu glucosinolate) ydy Sinigrin, sy'n perthyn i deulu'r glwcosad a ganfyddir mewn rhai planhigion megis ysgewyll, brocoli a'r mwstad du (y Brassica nigra).
Math o gyfrwng | math o endid cemegol |
---|---|
Math | [3,4,5-trihydroxy-6-(hydroxymethyl)oxan-2-yl] N-sulfooxybut-3-enimidothioate |
Màs | 359.034473124 uned Dalton |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pan fo planhigion tebyg yn cael eu gwasgu neu eu niweidio'n ddrwg, mae'r ensym 'myriosinase' yn dadfeilio sinigrin i fod yn olew mwstad (allyl isothiocyanate) sy'n gyfrifol am yr ogla a'r blas erchyll sydd ar fwstad a rhuddugl môr ('horse-radish').
Mae hadau'r mwstad gwyn (sef y Sinapis alba) ac yn cynnwys sinalbin yn hytrach na sinigrin.
Enw cemegol sinigrin yw 'llylglucosinolate' neu '2-propenylglucosinlate'. Y rhif-cas (neu cas number) yw 3952-98-5.
Dengys ymchwil gan Norwich Research Park (NRP), yn nwyrain Lloegr, y gall sinigrin goncro celloedd cansar (Yr apoptosis). O'i fwyta'n rheolaidd, yr awgrym cryf yw y gall sinigrin atal cansar rhag datblygu.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Erthygl Saesneg gan yr Institute of Food Research o'r enw 'Why your best friend could be a Brassica' [1] Archifwyd 2006-01-11 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Saesneg: Norwich Research Park website Archifwyd 2007-05-07 yn y Peiriant Wayback