Siobhan Owen
Soprano a thelynores o Adelaide, Awstralia ydy Siobhan Owen (ganwyd 4 Hydref 1993). Cafodd Owen ei geni yng Ngogledd Cymru a bu'n byw mewn pentref bychan ar Ynys Môn, sef Llanfairpwllgwyngyll cyn symud i Awstralia.
Siobhan Owen | |
---|---|
Ganwyd | 4 Hydref 1993 ![]() Llanfair Pwllgwyngyll ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | canwr opera ![]() |
Arddull | cerddoriaeth glasurol ![]() |
Math o lais | soprano ![]() |
Gwefan | http://siobhanowen.com ![]() |
Mae Owen wedi perfformio'n rheolaidd mewn gwyliau, cyngherddau a datganiadau o amgylch y byd. Mae hi'n ffafrio caneuon clasurol a Cheltaidd / gwerin, ond mae hefyd yn canu jazz ar adegau.