Sioned Wyn Roberts

sgriptiwr

Awdur a gomisiynydd cynnwys plant yn S4C yw Sioned Wyn Roberts.[1]

Sioned Wyn Roberts
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata

Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, bu Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Mae'n gomisiynydd cynnwys plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am Cyw a Stwnsh. Cyn hynny, bu'n cynhyrchu ac uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda'r BBC. Mae hi wedi sgriptio cartŵnau megis Alphablocks ac Abadas , wedi datblygu syniadau i blant o bob oed ac yn S4C wedi comisiynu a golygu cyfresi poblogaidd fel Deian a Loli a Cyw.

Dewiswyd Sioned fel un o awduron cwrs Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru (Tŷ Newydd Chwefror 2019). Credai Sioned bod creu cynnwys safonol yn y Gymraeg sy'n tanio dychymyg plant ac sy'n helpu caffael iaith yn hanfodol.

Cyhoeddwyd y gyfrol Ffwlbart Ffred: Drewi Fel Ffwlbart gan wasg Atebol yn 2020.

Cyfeiriadau golygu

  1. "www.gwales.com - 1913245020". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.



Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Sioned Wyn Roberts ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.