Siop y Pentan (Caerfyrddin)

Sefydlwyd Siop y Pentan Caerfyrddin gan dri partner yn 1972 yn Heol Dŵr. Roedd y diweddar Eirug Wyn yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin cyn iddo ef a dau arall sefydlu'r siop. Ar ôl rhai blynyddoedd symudodd o Gaerfyrddin i Gaernarfon a sefydlu Siop y Pentan yno. Partner arall oedd Wyn Thomas a oedd yn fachgen lleol ac a oedd cyn agor y siop yn glerc gyda'r arwerthwyr John Francis, a oedd yn rhedeg marchnad anifeiliaid, Caerfyrddin, ac felly gydag adnabyddiaeth enfawr o bobl yr ardal. Eirug ei hun oedd yn rhedeg y siop tra yr oedd yn Heol Dŵr. Ymunodd Wyn ag ef pan symudodd y siop i mewn i'r farchnad yn 1974. Mae Wyn bellach wedi ymddeol, ond mae'r busnes yn parhau. Y partner arall oedd William Lloyd a oedd yn reolwr cwmni teiars yn y dref.[1]

Ffynonellau golygu