Siri Hustvedt
Awdur Americanaidd yw Siri Hustvedt (ganwyd 19 Chwefror 1955) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, nofelydd, ac awdur ysgrifau.
Siri Hustvedt | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1955 Northfield, Minnesota |
Man preswyl | Brooklyn |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, nofelydd, awdur ysgrifau |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Sorrows of an American, Un été sans les hommes |
Tad | Lloyd Hustvedt |
Priod | Paul Auster |
Plant | Sophie Auster |
Gwobr/au | Gwobr Llyfrgelloedd Québec, Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias, Prix Femina, doctorat honoris causa de l'université Grenoble-III, Gwobr Ewropeaidd l'Essai Charles Veillon, honorary doctorate of Paris Nanterre University |
Gwefan | http://www.sirihustvedt.net/ |
Fe'i ganed yn Northfield, Minnesota yn Unol Daleithiau'r America a mynychodd Goleg Sant Olaf a Phrifysgol Columbia. Priododd Paul Auster ac mae Sophie Auster yn blentyn iddi. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Sorrows of an American a Un été sans les hommes.[1][2][3][4]
Erbyn 2019 roedd Hustvedt yn awdur un gyfrol o farddoniaeth, saith nofel, dau lyfr o draethodau, a sawl gwaith ffeithiol. Mae ei llyfrau'n cynnwys: The Blindfold (1992), The Enchantment of Lily Dahl (1996), What I Loved (2003), y mae hi'n fwyaf adnabyddus amdano, A Plea for Eros(2006), The Sorrows of an American (2008), The Shaking Woman or A History of My Nerves (2010), The Summer Without Men (2011), Living, Thinking, Looking (2012), a The Blazing World (2014). Roedd What I Loved a The Summer Without Men yn werthwyr llyfrau rhyngwladol. Cyfieithwyd ei gwaith i dros dri-deg o ieithoedd.
Dyddiau cynnar
golyguYn ferch i'r athro-prifysgol Lloyd Hustvedt, mynychodd Siri ysgol gyhoeddus yn ei thref enedigol Northfield, a derbyniodd radd gan Ysgol yr Eglwys Gadeiriol yn Bergen, Norwy, ym 1973. Dechreuodd ysgrifennu yn dair ar ddeg ar ôl taith deuluol i Reykjavík lle darllenodd amryw o weithiau clasurol. Gwnaeth David Copperfield gan Charles Dickens argraff arbennig arni, a phenderfynodd yn y fan a'r lle ei bod am wneud llenyddiaeth yn yrfa iddi ar ôl gorffen y llyfr.[5]
Coleg
golyguGraddiodd Hustvedt o Goleg St. Olaf gyda gradd B.A. mewn Hanes ym 1977. Symudodd i Ddinas Efrog Newydd er mwyn cael mynychu Prifysgol Columbia fel myfyriwr graddedig ym 1978. Roedd ei gwaith cyhoeddedig cyntaf yn gerdd yn The Paris Review. [6][7][8]
Roedd Hustvedt yn byw mewn tlodi yn ystod ei blynyddoedd coleg, ac wedi troi at fenthyciad brys gan y brifysgol er mwyn iddi ddal dau ben llinyn ynghyd.[5]
Cwblhaodd ei PhD mewn Saesneg yn Columbia ym 1986. Roedd ei thraethawd hir ar Charles Dickens, Figures of Dust: A Reading of Our Mutual Friend.
Gyrfa fel awdur
golyguYmddangosodd casgliad bychan o gerddi, Reading to You, ym 1982 gyda Station Hill Press. Cyhoeddwyd dwy stori o'r pedair a fyddai'n cael eu hailbobi'n nofel gyntaf iddi, sef The Blindfold, mewn cylchgronau llenyddol ac fe'u cynhwyswyd yn ddiweddarach yn Best American Short Stories 1990 a 1991.[9]
Ers hynny mae hi wedi parhau i ysgrifennu ffuglen a chyhoeddi traethodau ar y tir cyffredin rhwng athroniaeth, seicdreiddiad a niwrowyddoniaeth. Mae hi hefyd yn ysgrifennu'n rheolaidd am gelf weledol. Rhoddodd Hustvedt y drydedd ddarlith Schelling flynyddol ar estheteg yn Academi y Celfyddydau Cain ym Munich.
Llyfryddiaeth
golyguCerddi
golygu- Reading to You (1982)
Ffuglen
golygu- The Blindfold (1992)
- The Enchantment of Lily Dahl (1996)
- What I Loved (2003)
- The Sorrows of an American (2008)
- The Summer Without Men (2011)
- The Blazing World (2014)
- Memories of the Future (2019)
Nonfiction
golygu- Yonder (1998)
- Mysteries of the Rectangle: Essays on Painting (2005)
- A Plea for Eros (2005)
- The Shaking Woman or A History of My Nerves (2009)
- Living, Thinking, Looking (2012)
- A Woman Looking at Men Looking at Women - Essays (2016)
Translation
golygu- Kjetsaa, Geir. Fyodor Dostoyevsky: A Writer's Life, a gyfieithwyd gan Siri Hustvedt a David McDuff (1998)
- Six poems gan Tor Ulven o Vanishing Point. Writ, rhif. 18, 1986.
Cyfieithydd-olygydd
golygu- Fragments for a History of the Human Body, gol. Ferber, Nadof, Tazi (1998)
Cyhoeddiadau tramor gwreiddiol
golygu- Embodied Visions: What Does it Mean to Look at a Work of Art?, rhan o'r gyfres Schelling Lectures a draddodwyd ganddi yn Akademie der Bildenden Künste yn Munich; Deutscher Kunst Verlag, 2010
- The Eight Voyages of Sinbad, a gyhoeddwyd yn Sbaeneg Ocho Viajes Con Simbad. Madrid: La Fabrica, 2011.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Llyfrgelloedd Québec (2004), Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias (2019), Prix Femina (2011), doctorat honoris causa de l'université Grenoble-III (2015), Gwobr Ewropeaidd l'Essai Charles Veillon (2019), honorary doctorate of Paris Nanterre University (2019)[10][11][12] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2004. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 13 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: "Siri Hustvedt". "Siri Hustvedt". "Siri Hustvedt". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
- ↑ 5.0 5.1 Hicklin, Aaron (3 Mar 2019). "Siri Hustvedt:'I'm writing for my life'". The Guardian. Cyrchwyd 4 Mawrth 2019. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw "g1" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ Alma mater: "Skjørtejegeren" (yn Bokmål). 19 Mehefin 2007. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2020.
Men jeg bodde et år hos min tante og onkel i Fana da jeg var utvekslingselev ved Bergen Katedralskole.
CS1 maint: unrecognized language (link) - ↑ Anrhydeddau: https://www.fpa.es/es/premios-princesa-de-asturias/premiados/2019-siri-hustvedt.html?texto=acta&especifica=1. dyddiad cyrchiad: 31 Ionawr 2022. https://www.francetvinfo.fr/culture/livres/deux-ecrivains-etrangers-docteurs-honoris-causa-de-l-universite-de-grenoble_3336877.html. https://www.youtube.com/watch?v=j8M5UPrITOU.
- ↑ "Weather Markings", The Paris Review 81 (1981): 136-137.
- ↑ "Mr. Morning," yn The Best American Short Stories 1990, gol. Richard Ford (New York: Houghton Mifflin. 1990), 105–26; "Houdini," in Best American Short Stories 1991, gol. Alice Adams (Efrog Newydd: Houghton Mifflin, 1991), 209–27.
- ↑ https://www.fpa.es/es/premios-princesa-de-asturias/premiados/2019-siri-hustvedt.html?texto=acta&especifica=1. dyddiad cyrchiad: 31 Ionawr 2022.
- ↑ https://www.francetvinfo.fr/culture/livres/deux-ecrivains-etrangers-docteurs-honoris-causa-de-l-universite-de-grenoble_3336877.html.
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=j8M5UPrITOU.