Charles Dickens

Roedd Charles John Huffam Dickens FRSA ( /d ɪ k ɪ n z / ; 7 Chwefror, 1812 - 9 Mehefin 1870) yn awdur a beirniad cymdeithasol o Loegr. Fe greodd rai o gymeriadau ffuglen mwyaf adnabyddus y byd ac mae llawer yn ei ystyried yn nofelydd mwyaf oes Fictoria . [1] Mwynhaodd ei weithiau boblogrwydd digynsail yn ystod ei oes ac, erbyn yr 20fed ganrif, roedd beirniaid ac ysgolheigion yn ei gydnabod fel athrylith lenyddol. Mae ei nofelau a'i straeon byrion yn cael eu darllen yn eang heddiw. [2] [3]

Charles Dickens
Dickens Gurney head.jpg
FfugenwBoz Edit this on Wikidata
GanwydCharles John Huffam Dickens Edit this on Wikidata
7 Chwefror 1812 Edit this on Wikidata
Landport, Portsmouth Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mehefin 1870 Edit this on Wikidata
o gwaedlif ar yr ymennydd Edit this on Wikidata
Gads Hill Place, Higham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, newyddiadurwr, beirniad cymdeithasol, dramodydd, awdur, awdur plant, golygydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Pickwick Papers, Oliver Twist, A Christmas Carol, David Copperfield, Bleak House, Hard Times, Little Dorrit, A Tale of Two Cities, Great Expectations, Barnaby Rudge, Our Mutual Friend Edit this on Wikidata
Arddullnofel, stori fer, nofer fer, ffeithiol Edit this on Wikidata
Mudiadrealaeth llenyddol Edit this on Wikidata
TadJohn Dickens Edit this on Wikidata
MamElizabeth Dickens Edit this on Wikidata
PriodCatherine Dickens Edit this on Wikidata
PartnerEllen Ternan Edit this on Wikidata
PlantCharles Dickens, Jr., Mary Dickens, Kate Perugini, Walter Landor Dickens, Francis Dickens, Alfred D'Orsay Tennyson Dickens, Sydney Smith Haldimand Dickens, Henry Fielding Dickens, Dora Annie Dickens, Edward Dickens Edit this on Wikidata
LlinachDickens family Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA) Edit this on Wikidata
Llofnod
Charles Dickens Signature.svg

Blynyddoedd CynnarGolygu

Ganwyd Dickens yn 1 Mile End Terrace (393 Commercial Road erbyn hyn), Landport ar Ynys Portsea (Portsmouth), Hampshire, yr ail o wyth o blant Elizabeth Dickens (g. Barrow; 1789-1863) a John Dickens (1785–1851). Roedd ei dad yn glerc yn Swyddfa Dâl y Llynges ac roedd wedi'i leoli dros dro yn yr ardal. Gofynnodd i Christopher Huffam, [4] rigiwr yn Llynges Ei Fawrhydi, gŵr bonheddig, a phennaeth cwmni sefydledig, weithredu fel tad bedydd i Charles. Credir mai Huffam yw'r ysbrydoliaeth i Paul Dombey, perchennog cwmni llongau yn nofel Dickens Dombey and Son (1848). [4]

Ym mis Ionawr 1815, galwyd John Dickens yn ôl i Lundain a symudodd y teulu i Norfolk Street, Fitzrovia. [5] Pan oedd Charles yn bedair oed, fe symudon nhw i Sheerness ac oddi yno i Chatham, Caint, lle treuliodd ei flynyddoedd ffurfiannol hyd ei fod yn 11 oed. Mae'n ymddangos bod ei fywyd cynnar wedi bod yn hyfryd, er ei fod yn credu ei hun yn "fachgen bach iawn nad oedd yn cael llawer o ofal". [6]

Treuliodd Charles lawer o amser yn yr awyr agored. Bu hefyd yn darllen yn helaeth, gan gynnwys nofelau picarésg Tobias Smollett a Henry Fielding, yn ogystal â Robinson Crusoe a Gil Blas. Darllenodd ac ailddarllenodd The Arabian Nights a chasgliad o ffarsiau Elizabeth Inchbald . [7] Cadwodd atgofion ingol am blentyndod, gyda chymorth atgof rhagorol o bobl a digwyddiadau, a ddefnyddiodd yn ei ysgrifennu. [8] Fe wnaeth gwaith byr ei dad fel clerc yn Swyddfa Dâl y Llynges roi ychydig flynyddoedd o addysg breifat iddo, yn gyntaf mewn ysgol un athrawes ac yna mewn ysgol a oedd yn cael ei rhedeg gan William Giles, ymneilltuwr, yn Chatham. [9]

Daeth y cyfnod hwn i ben ym mis Mehefin 1822, pan gafodd John Dickens ei alw’n ôl i bencadlys Swyddfa Dâl y Llynges yn Somerset House a symudodd y teulu (heblaw am Charles, a arhosodd ar ôl i orffen ei dymor olaf yn yr ysgol) i Camden Town yn Llundain. [10] Roedd y teulu wedi gadael Caint yn gyflym, yn drwm dan ddyled o herwydd buw tu hwnt i'w fodd, [11] gorfodwyd John Dickens gan ei gredydwyr i garchar dyledwyr Marshalsea yn Southwark, Llundain ym 1824. Ymunodd ei wraig a'i blant ieuengaf ag ef yno, fel yr oedd yr arfer ar y pryd. Aeth Charles, a oedd yn 12 oed ar y pryd, i fyrddio gydag Elizabeth Roylance, ffrind i'r teulu, yn 112 College Place, Camden Town. [12] Roedd Mrs Roylance yn "hen fenyw tlawd a oedd yn gydnabod i'r teulu ers amser maith", a anfarwolodd Dickens yn ddiweddarach, "gydag ychydig o addasiadau ac addurniadau", fel "Mrs Pipchin" yn Dombey and Son. Yn ddiweddarach, bu’n byw mewn atig cefn yn nhŷ asiant i Lys y dyledwyr, Archibald Russell, “hen ŵr bonheddig tew, addfwyn, caredig ... gyda hen wraig dawel” a mab cloff, yn Lant Street yn Southwark. [13] Fe wnaethant ysbrydoli'r teulu Garland yn The Old Curiosity Shop. [14]

Ar ddydd Sul - gyda'i chwaer Frances, yn rhydd o'i hastudiaethau yn yr Academi Gerdd Frenhinol - treuliodd y diwrnod yn y Marshalsea. [15] Yn ddiweddarach, defnyddiodd Dickens y carchar fel lleoliad yn Little Dorrit. Er mwyn talu am ei gadw ac i helpu ei deulu, gorfodwyd Dickens i adael yr ysgol a gweithio deg awr y dydd yn Warws Warren's Blacking, ar Hungerford Stairs, ger gorsaf reilffordd bresennol Charing Cross, lle roedd yn ennill chwe swllt yr wythnos gan bastio labeli ar botiau o flacin esgidiau. Gwnaeth yr amodau gwaith llym a chaled argraff barhaol ar Dickens. Defnyddiodd ei brofiadau ar ei ffuglen a'i draethodau gan ddod yn sylfaen i'w ddiddordeb mewn diwygio amodau economaidd, gymdeithasol a gwaith oedd, yn ei dyb ef, yn annheg i'r tlawd.  [16]

Ychydig fisoedd ar ôl ei garcharu, bu farw mam John Dickens, Elizabeth Dickens, a rhoddodd £450 iddo yn ei ewyllys. Rhyddhawyd Dickens o'r carchar. Wedi iddo talu ei gredydwyr a gadawodd ef a'i deulu y Marshalsea, [17] am gartref Mrs Roylance.

Nid oedd mam Charles, Elizabeth Dickens, am iddo rhoi'r gorau i weithio yn y warws blacin. Cafodd methiant ei fam i ofyn am ei ryddhau o'r gwaith effaith andwyol ar ei agwedd tuag at fenywod. [18]

Daeth dicter cyfiawn yn deillio o'i sefyllfa ei hun a'r amodau yr oedd pobl dosbarth gweithiol yn byw ynddynt yn brif themâu ei weithiau. Y cyfnod anhapus hwn yn ei ieuenctid oedd yr ysbrydoliaeth i'w hoff nofel, a'i un mwyaf hunangofiannol, David Copperfield. [19]

Yn y pen draw, anfonwyd Dickens i Academi Wellington House yn Camden Town, lle y bu tan fis Mawrth 1827, ar ôl treulio tua dwy flynedd yno. Nid oedd yn ei hystyried yn ysgol dda: "Mae llawer o'r addysg afreolus a ddirmygus, disgyblaeth wael wedi'i hatalnodi gan greulondeb sadistaidd y prifathro, y tywyswyr anniben a'r awyrgylch o ddirywiad, wedi'u hymgorffori yn Sefydliad Mr Creakle yn David Copperfield." [20]

Dechrau gyrfaGolygu

Wedi ymadael a'r ysgol gweithiodd Dickens yn swyddfa gyfraith Ellis a Blackmore, twrneiod, Holborn Court, Gray's Inn, fel clerc iau rhwng Mai 1827 a Thachwedd 1828.[21] Yna, ar ôl dysgu'r system law-fer Gurney yn ei amser hamdden, gadawodd i ddod yn ohebydd ar ei liwt ei hun. Roedd perthynas bell, Thomas Charlton, yn ohebydd ar ei liwt ei hun yn y Doctor's Commons (cymdeithas o gyfreithwyr sy'n ymarfer cyfraith sifil yn Llundain, yn bennaf cyfraith eglwysig a chyfraith y Morlys). Bu Dickens yn creu adroddiadau newyddion ar achosion cyfreithiol yno am bron i bedair blynedd. [22] [23] Cafodd y profiad hwn ei ddefnyddio mewn gweithiau fel Nicholas Nickleby, Dombey and Son ac yn arbennig Bleak House.

Roedd Dickens yn mwynhau dynwarediad ac adloniant poblogaidd, - daeth yn aelod cynnar o'r Garrick Club [24] - cafodd glyweliad actio yn Covent Garden, gan y rheolwr George Bartley a'r actor Charles Kemble. Yn y pen draw fe fethodd y clyweliad oherwydd annwyd. Cyn i gyfle arall godi, roedd wedi cychwyn ar ei yrfa fel ysgrifennwr. [25] Ym 1833, cyflwynodd ei stori gyntaf, "A Dinner at Poplar Walk", i'r London Monthly Magazine yn Llundain. [26] Cynigiodd William Barrow, ewythr ochr ei fam Dickens, swydd iddo ar The Mirror of Parliament a bu’n gweithio yn Nhŷ’r Cyffredin am y tro cyntaf yn gynnar ym 1832. Rhentodd ystafelloedd yn Furnival's Inn a gweithiodd fel newyddiadurwr gwleidyddol, gan adrodd ar ddadleuon Seneddol, a theithiodd ledled Prydain i gwmpasu ymgyrchoedd etholiadol ar gyfer y Morning Chronicle. Ei newyddiaduraeth, ar ffurf brasluniau roedd wedi eu cyhoeddi mewn cyfnodolion, ei gasgliad cyntaf o ddarnau, a gyhoeddwyd ym 1836: Sketches by Boz. Roedd Boz yn llysenw teuluol a defnyddiodd fel ffugenw am rai blynyddoedd. [27] [28] Cyfrannodd Dickens at gyfnodolion a'u golygu trwy gydol ei yrfa lenyddol. [26] Ym mis Ionawr 1835, lansiodd y Morning Chronicle argraffiad gyda'r nos, o dan olygyddiaeth beirniad cerddoriaeth y papur George Hogarth. Gwahoddodd Hogarth ef i gyfrannu brasluniau o'r Stryd ar gyfer y papur. Daeth Dickens yn ymwelydd rheolaidd â’i dŷ Fulham - wedi’i gyffroi gan gyfeillgarwch Hogarth â Walter Scott (roedd Dickens yn ei edmygu’n fawr) ac yn mwynhau cwmni tair merch Hogarth: Georgina, Mary a Catherine 19 oed. [29]

Gwnaeth Dickens gynnydd cyflym yn broffesiynol ac yn gymdeithasol. Dechreuodd gyfeillgarwch â William Harrison Ainsworth, awdur y nofel lleidr penffordd Rookwood (1834), roedd ei gyfarfodydd ystafell dderbyn i ddynion dibriod yn Harrow Road wedi dod yn fan cyfarfod ar gyfer set a oedd yn cynnwys Daniel Maclise, Benjamin Disraeli, Edward Bulwer-Lytton a George Cruikshank. Daeth y rhain i gyd yn ffrindiau ac yn gydweithwyr iddo, ac eithrio Disraeli, a chyfarfu â'i gyhoeddwr cyntaf, John Macrone, yn y tŷ. [30] Arweiniodd llwyddiant Sketches by Boz at gynnig gan y cyhoeddwyr Chapman and Hall i Dickens gyflenwi testun i gyd-fynd ag engrafiadau Robert Seymour mewn llyfryn misol. Cyflawnodd Seymour hunanladdiad ar ôl yr ail ran a llogodd Dickens, a oedd am ysgrifennu cyfres gysylltiedig o frasluniau, "Phiz" i ddarparu'r engrafiadau ar gyfer y storïau. Y gyfres gyntaf oedd The Pickwick Papers ac, er nad oedd yr ychydig benodau cyntaf yn llwyddiannus, gwelodd cyflwyno'r cymeriad o Gocni Sam Weller yn y bedwaredd bennod (y gyntaf i gael ei darlunio gan Phiz) cynnydd sydyn yn ei phoblogrwydd. [31] Gwerthodd y rhan olaf 40,000 o gopïau. [32]

Ym mis Tachwedd 1836, derbyniodd Dickens swydd fel golygydd Bentley's Miscellany, swydd bu ynddi am dair blynedd, nes iddo gael anghydfod gyda'r perchennog. [33] Ym 1836, wrth iddo orffen rhannau olaf The Pickwick Papers, dechreuodd ysgrifennu rhannau cychwynnol Oliver Twist - gan ysgrifennu cymaint â 90 tudalen y mis. Gan barhau i weithio ar Bentley's ysgrifennodd hefyd pedair drama, a bu'n goruchwylio eu cynhyrchu ar gyfer y llwyfan. Daeth Oliver Twist, a gyhoeddwyd ym 1838, yn un o straeon mwyaf adnabyddus Dickens ac roedd y nofel Fictoraidd cyntaf gyda phlentyn yn prif gymeriad. [34]

Parhaodd ei lwyddiant fel nofelydd. Darllenodd y Frenhines Fictoria ifanc Oliver Twist a The Pickwick Papers, gan aros i fyny tan hanner nos i'w trafod. [35] Cafodd Nicholas Nickleby (1838–39), The Old Curiosity Shop (1840–41) a Barnaby Rudge: A Tale of the Riots of 'Eighty, eu cyhoeddi mewn rhanau misol cyn eu gwneud yn llyfrau. [36]

Bywyd personolGolygu

Ym 1830, cyfarfu Dickens â’i gariad cyntaf, Maria Beadnell. Credir mai hi oedd y model ar gyfer y cymeriad Dora yn David Copperfield. Nid oedd rhieni Maria yn cymeradwyo'r garwriaeth a daeth y berthynas i ben trwy ei hanfon i'r ysgol ym Mharis. [37]

Ar 2 Ebrill 1836, ar ôl dyweddiad a barodd am flwyddyn, a rhwng penodau dau a thri o The Pickwick Papers, priododd Dickens â Catherine Thomson Hogarth (1815-1879), merch George Hogarth, golygydd yr Evening Chronicle. [38] Priodwyd y ddau yn Eglwys St Luke, [39] Chelsea, Llundain. Ar ôl mis mêl byr yn Chalk yng Nghaint, dychwelodd y cwpl i lety yn Furnival's Inn. [40] Ganwyd y cyntaf o’u deg plentyn, Charles, ym mis Ionawr 1837 ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach sefydlodd y teulu gartref yn Bloomsbury yn 48 Doughty Street, Llundain (roedd gan Charles brydles tair blynedd arno ar £ 80 y flwyddyn) o 25 Mawrth 1837 tan Ragfyr 1839. [38] [41]

PlantGolygu

Ym 1857, llogodd Dickens actoresau proffesiynol ar gyfer y ddrama The Frozen Deep, a ysgrifennwyd ganddo ef a'i brotégé, Wilkie Collins. Syrthiodd Dickens mewn cariad ag un o'r actoresau, Ellen Ternan. [42] Roedd Dickens yn 45 a Ternan 18 Penderfynodd wahanu oddi wrth ei wraig, Catherine, ym 1858; roedd ysgariad yn y cyfnod yn dal i fod yn annychmygol i rywun mor enwog ag ef.

Gyrfa bellachGolygu

Ym 1842, aeth Dickens a'i wraig ar eu taith gyntaf i'r Unol Daleithiau a Chanada. [43] Disgrifiodd ei argraffiadau mewn teithlyfr, American Notes for General Circulation

Yn fuan wedi iddo ddychwelyd i Loegr, dechreuodd Dickens weithio ar y cyntaf o'i straeon Nadoligaidd, A Christmas Carol, a ysgrifennwyd ym 1843, a ddilynwyd gan The Chimes ym 1844 a The Cricket on the Hearth ym 1845. O'r rhain, roedd A Christmas Carol y llyfr fwyaf poblogaidd. [44]

Ar ôl byw am gyfnod byr yn yr Eidal (1844), teithiodd Dickens i'r Swistir (1846), lle dechreuodd weithio ar Dombey and Son (1846-48), nofel sydd ynghyd a David Copperfield (1849-50) yn nodi toriad artistig sylweddol yng ngyrfa Dickens lle mae ei nofelau'n dod yn fwy difrifol o ran thema na'i weithiau cynnar.

Ym mis Rhagfyr 1845, pennodiwyd Dickens yn olygydd y Daily News yn Llundain, papur rhyddfrydol yr oedd Dickens yn gobeithio defnyddio i eirioli, "Egwyddorion Cynnydd a Gwelliant, Addysg a Rhyddid Sifil a Chrefyddol a Deddfwriaeth Gyfartal." [45] Dim ond deng wythnos y parodd Dickens yn y swydd cyn ymddiswyddo oherwydd cyfuniad o orflinder a rhwystredigaeth gydag un o gyd-berchnogion y papur. [45] Yn gynnar yn 1849, dechreuodd Dickens ysgrifennu David Copperfield. Fe'i cyhoeddwyd rhwng 1849 a 1850.

Ar ddiwedd mis Tachwedd 1851, symudodd Dickens i Tavistock House lle ysgrifennodd Bleak House (1852–53), Hard Times (1854) a Little Dorrit (1856). [46] Ym 1856, caniataodd ei incwm o ysgrifennu iddo brynu Gads Hill Place yn Higham, Caint. Yn blentyn, roedd Dickens wedi cerdded heibio'r tŷ ac wedi breuddwydio am fyw ynddo.

Yn ystod yr amser hwn bu Dickens hefyd yn gyhoeddwr, golygydd a chyfrannwr mawr i'r cyfnodolion Household Words (1850-1859) a All the Year Round (1858-1870). [47] Ym 1855, pan ffurfiodd ffrind da Dickens ac AS Rhyddfrydol Austen Henry Layard Gymdeithas Diwygio Gweinyddol i ymgyrchu am ddiwygiadau sylweddol i'r Senedd. Roedd Dickens yn gefnogol i achos Layard. [48]

Ar ôl gwahanu oddi wrth Catherine, [49] cynhaliodd Dickens gyfres o deithiau darllen hynod boblogaidd a oedd, ynghyd â’i newyddiaduraeth, i amsugno’r rhan fwyaf o’i egni creadigol am y degawd nesaf. Dim ond dwy nofel arall a ysgrifenwyd ganddo. [50] Roedd ei daith ddarllen gyntaf, a barhaodd rhwng Ebrill 1858 a Chwefror 1859, yn cynnwys 129 ymddangosiad mewn 49 tref ledled Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. [51] Ym 1866, cynhaliodd gyfres o ddarlleniadau cyhoeddus yn Lloegr a'r Alban, gyda mwy'r flwyddyn ganlynol yn Lloegr a'r Iwerddon. [52]

Dilynodd gweithiau eraill yn fuan, gan gynnwys A Tale of Two Cities (1859) a Great Expectations (1861), a oedd yn llwyddiannau ysgubol. Wedi'i osod yn Llundain a Paris, A Tale of Two Cities yw ei waith mwyaf adnabyddus o ffuglen hanesyddol. Hon oedd un o'i nofelau sydd wedi gwerthu orau. [53] [54] Ymhlith themâu Great Expectations mae cyfoeth a thlodi, cariad a gwrthod cariad, a buddugoliaeth dda dros ddrwg. [55]

 
Hysbyseb yn canslo darlleniad Dickens yng Nghaerdydd oherwydd ei salwch

Rhwng 1868 a 1869, rhoddodd Dickens gyfres o "ddarlleniadau ffarwel" yn Lloegr, yr Alban a'r Iwerddon, gan ddechrau ar 6 Hydref. Roedd dan gytundeb i wneud 100 darlleniad. Llwyddodd i draddodi 12 darlleniad yn Llundain a 75 tu allan i Lundain. [56] Yn ystod ei daith cafodd ei effeithio gan y bendro a ffitiau o'r parlys. Dioddefodd strôc ar 18 Ebrill 1869 yng Nghaer. [57] Cwympodd ar 22 Ebrill 1869, yn Preston, Swydd Gaerhirfryn ac, ar gyngor meddyg, cafodd y daith ei chanslo. [58] Ar ôl i ddarlleniadau pellach gael eu canslo, dechreuodd weithio ar ei nofel olaf, The Mystery of Edwin Drood. Roedd y daith hon i fod i gynwys darlleniad yng Nghaerdydd ar 4 Mai, ond cafodd ei ganslo oherwydd ei salwch.[59]

Ar ôl i Dickens adfer cryfder digonol, trefnodd, gyda chymeradwyaeth feddygol, i ail afael ar ei daith darlleniadau. Dim ond 12 perfformiad llwyddodd i gyflawni, yn rhedeg rhwng 11 Ionawr a 15 Mawrth 1870, yr olaf yn Neuadd St James yn Llundain. Er ei fod mewn iechyd difrifol erbyn hyn, darllenodd A Christmas Carol a The Trial of Pickwick. Ar 2 Mai, gwnaeth ei ymddangosiad cyhoeddus olaf mewn Gwledd yr Academi Frenhinol ym mhresenoldeb Tywysog a Thywysoges Cymru, gan dalu teyrnged arbennig ar farwolaeth ei ffrind, y darlunydd Daniel Maclise. [60]

MarwolaethGolygu

Ar 8 Mehefin 1870, dioddefodd Dickens strôc arall yn ei gartref ar ôl diwrnod llawn o waith ar Edwin Drood. Trannoeth, bu farw yn Gads Hill Place. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yng Nghornel y Beirdd yn Abaty Westminster.

NofelauGolygu

Llyfrau eraillGolygu

StorïauGolygu

  • “A Christmas Tree”
  • “A Message from the Sea”
  • “Doctor Marigold”
  • “George Silverman’s Explanation”
  • “Going into Society”
  • “Holiday Romance”
  • “Hunted Down”
  • “Mrs. Lirriper’s Legacy”
  • “Mrs. Lirriper’s Lodgings”
  • “Mugby Junction”
  • “Perils of Certain English Prisoners”
  • “Somebody’s Luggage”
  • “Sunday Under Three Heads”
  • “The Child’s Story”
  • “The Haunted House”
  • “The Haunted Man and the Ghost’s Bargain”
  • “The Holly-Tree”
  • “The Lamplighter”
  • “The Seven Poor Travellers”
  • “The Trial for Murder”
  • “Tom Tiddler’s Ground”
  • “What Christmas Is As We Grow Older”
  • “Wreck of the Golden Mary”


CyfeiriadauGolygu

  1. Black 2007, t. 735.
  2. Mazzeno 2008, t. 76.
  3. Chesterton 2005.
  4. 4.0 4.1 West, Gilian (Spring 1999). "Huffam and Son". The Dickensian (Dickens Fellowship) 95: 5–18.
  5. Callow 2012, t. 5
  6. Forster 2006, t. 13.
  7. Callow 2012, t. 7
  8. Ackroyd 1990.
  9. Ackroyd 1990, t. 41.
  10. Callow 2009, t. 13
  11. Ackroyd 1990, t. 76:'recklessly improvident'.
  12. Pope-Hennessy 1945, t. 11.
  13. Forster 2006, t. 27.
  14. Ackroyd 1990, t. 76.
  15. Wilson 1972, t. 53.
  16. Forster 2006.
  17. Schlicke 1999, t. 157.
  18. Wilson 1972, t. 58.
  19. Cain 2008, t. 91.
  20. Wilson 1972, t. 61.
  21. Callow 2009
  22. Pope-Hennessy 1945, t. 18.
  23. Wilson 1972, t. 64.
  24. Tomalin 1992
  25. Tomalin 1992
  26. 26.0 26.1 Patten 2001.
  27. Ackroyd 1990.
  28. Glancy 1999.
  29. Callow 2009
  30. Callow 2012, t. 56
  31. Callow 2012, t. 60
  32. Patten 2001.
  33. Ackroyd 1990, tt. 201, 278–279.
  34. Smiley 2002, tt. 12–14.
  35. "Queen Victoria's Journals". RA VIC/MAIN/QVJ (W). 26 December 1838. Cyrchwyd 24 May 2013.
  36. Schlicke 1999.
  37. Davis 1998, t. 23.
  38. 38.0 38.1 Schlicke 1999
  39. "Notable people connected with St Luke's". St Luke’s and Christ Church. Chelsea. Cyrchwyd 25 February 2019.
  40. Ackroyd 1990.
  41. Ackroyd 1990.
  42. Ackroyd 1990, tt. 788–799.
  43. Miller, Sandra A. (18 March 2012). "When Charles Dickens came to Boston". The Boston Globe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 February 2014. Cyrchwyd 22 January 2019.
  44. Callow 2009, tt. 146–148
  45. 45.0 45.1 Roberts, David (1989). "Charles Dickens and the "Daily News": Editorials and Editorial Writers". Victorian Periodicals Review 22 (2): 51–63. JSTOR 20082378.
  46. Ackroyd 1990, tt. 628; 634–638.
  47. Ackroyd 1990.
  48. Slater 2009
  49. Ackroyd 1990.
  50. Sutherland 1990.
  51. Hobsbaum 1998.
  52. Schlicke, Paul (2011). The Oxford Companion to Charles Dickens: Anniversary Edition. Oxford University Press. t. 302.
  53. "Charles Dickens novel inscribed to George Eliot up for sale". The Guardian. Cyrchwyd 7 September 2019.
  54. "A Tale of Two Cities, King's Head, review". The Telegraph. Cyrchwyd 7 September 2019.
  55. Charles Dickens (1993), Great Expectations, p. 1, introduction. Ware, Hertfordshire: Wordsworth Classics
  56. Hobsbaum 1998.
  57. Tomalin 2011
  58. Ackroyd 1990.
  59. "Advertising - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1869-05-01. Cyrchwyd 2021-05-02.
  60. Ackroyd 1990, tt. 1069–1070.

TroednodiadauGolygu

NodiadauGolygu

LlyfryddiaethGolygu

Darllen pellachGolygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.