Sirosis

afiechyd yn yr afu

Cyflwr yw sirosis ble nad yw'r afu yn gweithio yn iawn oherwydd difrod tymor hir. Nodweddir y difrod hwn gan feinwe yn cael ei gyfnewid gan feinwe greithiol. Fel arfer, mae'r clefyd yn datblygu yn araf dros fisoedd neu flynyddoedd. Yn aml, nid oes symptomau yn y cyfnod cynnar. Wrth i'r clefyd waethygu, gall person ddod yn flinedig, yn wan, coslyd, gael chwyddo yng ngwaelod y coesau, datblygu clefyd melyn, cleisio'n hawdd, cael hylif yn casglu yn yr abdomen, neu ddatblygu gwaedlestri tebyg i gorynnod ar y croen. Gall y casgliad o hylif yn yr abdomen gael ei heintio'n ddigymell. Mae cymhlethdodau eraill gynnwys enseffalopathi hepatig, gwaedu o gwythiennau lledagroed yn y oesophagus neu wythiennau ystumog lledagored, neu ganser yr afu. Mae enseffalopathi hepatig yn achosi dryswch ac yn gallu arwain at anymwybyddiaeth.[1]

Sirosis
Delwedd:Liver Cirrhosis.png, Cirrhosis Liver 4x.jpg, Liver Cirrhosis es.png, Liver Cirrhosis-it.png, Liver Cirrhosis-ar.png, Karaciğer sirozu.png
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd yr afu, cirrosis, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Achosion mwyaf cyffredin sirosis yw alcohol, hepatitis B, hepatitis C, a chlefyd afu brasterog di-alcohol.[2] Fel arfer, mae angen mwy na dau neu dri diod alcoholaidd y dydd dros gyfnod o flynyddoedd i achosi siroris alcoholaidd. Mae nifer o achosion i glefyd afu brasterog di-alcohol, gan gynnwys bod dros bwysau, clefyd y siwgr, brasterau gwaed uchel, a phwysedd gwaed uchel. Mae nifer o achosion llai cyffredin o sirosis i'w cael, gan gynnwys hepatitis hunanimíwn, primary biliary cholangitis bustlaidd cynradd, hemochromatosis, meddyginiaethau penodol, a cherrig bustl. Mae diagnosis yn seiliedig ar brofion gwaed, delweddu meddygol, a biopsi afu.

Mae rhai o achosion sirosis, megis hepatitis B, yn gallu cael eu hatal trwy frechiad. Mae triniaeth yn dibynnu yn rhannol ar yr achos sylfaenol, ond y nod yn aml yw atal gwaethygiad a chymhlethdodau. Argymhellir osgoi alcohol ym mhob achos o sirosis. Gellir trin hepatitis B ac C gyda meddyginiaethau gwrth-feirol. Gellir trin hepatitis hunanimiwn gyda meddyginiaethau steroid. Gall ursodiol fod yn ddefnyddiol os yw'r clefyd o ganlyniad i dwythellau bustl. Gall meddyginiaethau eraill fod yn ddefnyddiol ar gyfer cymhlethdodau megis chwyddo yn yr abdomen neu goesau, enseffalopathi hepatig, a gwythiennau oesophagaeal lledagored . Mewn achosion dwys o sirosis, gall trawsblannu'r afu fod yn opsiwn.

Mae tua 2.8 miliwn o bobl yn dioddef o sirosis ac arweiniodd y cyflwr at 1.3 miliwn o farwolaethau yn 2015. O'r rhain, achoswyd 348,000 gan alcohol, 326,000 gan hepatitis C, a 371,000 gan hepatitis B. Yn yr Unol Daleithiau, mae mwy o ddynion nag o fenywod yn marw o sirosis. Ceir y disgrifiad cyntaf at y cyflwr gan hippocrates yn y 5g CCC.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cirrhosis". April 23, 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 June 2015. Cyrchwyd 19 May 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. GBD 2013 Mortality and Causes of Death, Collaborators (17 December 2014). "Global, regional, and national age-sex specific all-cause and cause-specific mortality for 240 causes of death, 1990–2013: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2013.". Lancet 385 (9963): 117–71. doi:10.1016/S0140-6736(14)61682-2. PMC 4340604. PMID 25530442. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4340604.