Clefyd heintus yw hepatitis B. Fe'i hachosir gan y firws hepatitis B (HBV), sy'n effeithio ar yr afu. Gall y clefyd achosi heintiau aciwt a chronig. Nid yw llawer o bobl yn dioddef symptomau yn ystod penodau cychwynnol y cyflwr. Serch hynny, mae rhai'n datblygu anhwylderau'n gyflym, er enghraifft chwydu, croen melyn, blinder, wrin tywyll a phoenau yn yr abdomen. Fel arfer mae'r symptomau uchod yn parhau am ychydig wythnosau ac ar y cyfan ni achosir marwolaeth gan yr haint yn ystod ei gyfnodau cychwynnol.[1] Gall gymryd rhwng 30 a 180 diwrnod i'r symptomau ddatblygu. Mae 90% o'r rheini sy'n cael eu heintio yn ystod eu cyfnod geni'n datblygu hepatitis B cronig; 10% o ddioddefwyr dros bum mlwydd oed sy'n datblygu'r cyflwr hwnnw. Nid yw'r rhan fwyaf o ddioddefwyr clefyd cronig yn datblygu symptomau; fodd bynnag, gall arwain yn y pen draw at ganser ar yr afu a sirosis.[2] Mae'r fath gymhlethdodau'n achosi marwolaeth ymysg 15 i 25% o ddioddefwyr clefyd cronig.

Hepatitis B
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd heintus firol, hepatitis firol, Hepadnaviridae infectious disease, clefyd Edit this on Wikidata
Lladdwyd887,000 Edit this on Wikidata
SymptomauCyfog, chwydu, hepatitis edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Caiff y firws ei drosglwyddo wrth i rywun ddod i gysylltiad â gwaed neu hylifau corffol heintus. Mewn ardaloedd lle mae'r afiechyd mwyaf cyffredin, trosglwyddir heintiad hepatitis B yn bennaf yn ystod genedigaeth neu drwy ddod i gysylltiad â gwaed heintiedig yn ystod plentyndod. Mewn ardaloedd lle nad yw'r clefyd yn gyffredin, caiff ei drosglwyddo yn fwy aml na pheidio o ganlyniad i ddefnydd cyffuriau mewnwythiennol a chyfathrach rywiol. Ymhlith y ffactorau risg eraill y mae gweithio ym maes gwasanaethau iechyd, trallwysiadau gwaed, dialysis, byw gyda pherson sydd wedi ei heintio, teithio i wledydd lle mae'r cyfraddau heintio yn uchel a byw mewn sefydliad.[3] Arweiniodd tatŵio ac aciwbigo at nifer sylweddol o achosion yn y 1980au; fodd bynnag, nid ydynt bellach yn achosion cyffredin o ganlyniad i welliannau mewn sterileiddiwch.[4] Ni ellir lledaenu firws hepatitis B trwy ddal dwylo, rhannu offer bwyta, cusanu, cofleidio, peswch, tisian, neu fwydo o'r fron. Mae modd diagnosio'r cyflwr 30 i 60 diwrnod wedi'r cysylltiad. Gwneir diagnosis fel arfer drwy brofi rhannau o'r firws yn y gwaed ynghyd â gwrthgorffynnau yn erbyn y firws. Mae'n un o bum prif firysau hepatitis: A, B, C, D, ac E.[5]

Ers 1982 mae'n bosib atal yr haint drwy frechiad.[6] Argymhellir brechu baban ar ddiwrnod ei genedigaeth, lle bo hynny'n bosib, gan Sefydliad Iechyd y Byd. Er mwyn sicrhau'r amddiffyniad gorau posib, mae'n ofynnol brechu dau neu dri dos arall yn hwyrach mewn bywyd unigolyn. Mae'r brechlyn yn gweithio oddeutu 95% o'r amser.[7] Yn 2006, yr oedd tua 180 o wledydd yn cynnig y brechlyn fel rhan o raglen genedlaethol. Cyn cynnal trallwysiad gwaed argymhellir cynnal profion ar gyfer hepatitis B, dylid defnyddio condomau hefyd i atal yr haint rhag lledaenu o un unigolyn i'r naill. Yn ystod cyfnodau cychwynnol yr haint y mae'r gofal a roddir yn seiliedig ar symptomau'r dioddefwr. Mewn unigolion sy'n datblygu clefyd cronig, gall meddyginiaeth gwrthfirysol megis tenofovir neu interfferon fod yn ddefnyddiol; fodd bynnag, nid yw'r cyffuriau uchod yn rhad. Cynhelir trawsblaniad yr afu weithiau ar gyfer sirosis.

Mae tua thraean o boblogaeth y byd wedi cael eu heintio rhywbryd yn ystod eu bywydau, gan gynnwys 343 miliwn o heintiau cronig.[8][9] Cofrestrwyd 129 miliwn o heintiau newydd yn 2013.[10] Mae dros 750,000 o bobl yn marw o hepatitis B yn flynyddol.[8] Achosir oddeutu 300,000 o'r rhain gan ganser yr afu.[11] Bellach, mae'r clefyd ond yn gyffredin yn Nwyrain Asia ac Affrica Is-Sahara, lle mae rhwng 5 a 10% o oedolion wedi'u heintio'n gronig. Mae cyfraddau marw yn Ewrop a Gogledd America yn llai na 1%. Gelwid y cyflwr yn wreiddiol yn "hepatitis serwm".[12] Mae ymchwil yn parhau sy'n anelu at greu bwydydd yn cynnwys y brechlyn HBV.[13]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Raphael Rubin; David S. Strayer (2008). Rubin's Pathology : clinicopathologic foundations of medicine ; [includes access to online text, cases, images, and audio review questions!] (arg. 5.). Philadelphia [u.a.]: Wolters Kluwer/Lippincott Williams & Wilkins. t. 638. ISBN 9780781795166. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Medi 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Chang MH (June 2007). "Hepatitis B virus infection". Semin Fetal Neonatal Med 12 (3): 160–167. doi:10.1016/j.siny.2007.01.013. PMID 17336170.
  3. "Hepatitis B FAQs for the Public — Transmission". U.S. Centers for Disease Control and Prevention (CDC). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Rhagfyr 2011. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Thomas HC (2013). Viral Hepatitis (arg. 4th). Hoboken: Wiley. t. 83. ISBN 9781118637302. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Medi 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Global hepatitis report 2017 (PDF). WHO. 2017. ISBN 978-92-4-156545-5.
  6. "Natural History of Hepatitis B Virus Infection: an Update for Clinicians". Mayo Clinic Proceedings 82 (8): 967–975. 2007. doi:10.4065/82.8.967. PMID 17673066. https://archive.org/details/sim_mayo-clinic-proceedings_2007-08_82_8/page/967.
  7. Williams R (2006). "Global challenges in liver disease". Hepatology 44 (3): 521–526. doi:10.1002/hep.21347. PMID 16941687.
  8. 8.0 8.1 "Hepatitis B Fact sheet N°204". who.int. Gorffennaf 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  9. Schilsky ML (2013). "Hepatitis B "360"". Transplantation Proceedings 45 (3): 982–985. doi:10.1016/j.transproceed.2013.02.099. PMID 23622604.
  10. Global Burden of Disease Study 2013, Collaborators (22 August 2015). "Global, regional, and national incidence, prevalence, and years lived with disability for 301 acute and chronic diseases and injuries in 188 countries, 1990-2013: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2013.". Lancet 386 (9995): 743–800. doi:10.1016/S0140-6736(15)60692-4. PMC 4561509. PMID 26063472. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4561509.
  11. GBD 2013 Mortality and Causes of Death, Collaborators (17 Rhagfyr 2014). "Global, regional, and national age-sex specific all-cause and cause-specific mortality for 240 causes of death, 1990–2013: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2013.". Lancet 385 (9963): 117–71. doi:10.1016/S0140-6736(14)61682-2. PMC 4340604. PMID 25530442. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4340604.
  12. "Transmission of serum hepatitis. 1970". Journal of the American Medical Association 276 (10): 841–844. 1996. doi:10.1001/jama.276.10.841. PMID 8769597.
  13. Thomas, Bruce (2002). Production of Therapeutic Proteins in Plants. t. 4. ISBN 9781601072542. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Medi 2015. Cyrchwyd 25 Tachwedd 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)