Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Samoa
Mae tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Samoa (a elwir hefyd yn Manu Samoa) yn cael ei lywodraethu gan Undeb Rygbi Samoa. Mae'r enw Manu Samoa er anrhydedd i ryfelwr Samoaidd enwog. Maen nhw'n perfformio dawns her Samoaidd draddodiadol o'r enw'r Siva tau cyn pob gêm. Arferai Undeb Rygbi Samoa fod yn aelodau o Urdd Rygbi Ynysoedd y Môr Tawel (PIRA) ynghyd â Ffiji a Tonga.[1] Maent wedi ei rhestri gan yn 16eg yn rheng y byd.[2]
| |||
Cwpan y Byd | |||
---|---|---|---|
Ymddangosiadau | 7 |
Cyflwynwyd rygbi i Samoa yn gynnar yn y 1920au a buan y ffurfiwyd corff llywodraethu. Chwaraewyd y rhyngwladol cyntaf fel Gorllewin Samoa yn erbyn Ffiji ym mis Awst 1924. Ynghyd â Tonga, mae'r cenhedloedd hyn yn cwrdd yn rheolaidd ac yn y pen draw yn cystadlu mewn cystadlaethau fel y Tri-Genhedloedd Môr Tawel ("Pacific Tri-Nations" a elwir, wedi addasiad yn 2006, yn "World Rugby Pacific Nations Cup") - gyda Gorllewin Samoa yn ennill y cyntaf o'r rhain.
Mae Samoa wedi bod i bob Cwpan Rygbi'r Byd ers twrnamaint 1991.
Cyd-destun
golyguCyn dechrau, mae angen cofio mai, yn ei hanfod, tîm hen Seland Newydd Gorllewin Samoa yw tîm gyfredol a elwir yn "Samoa". Daeth Gorllewin Samoa yn annibynnol o SN yn 1962. Mae rhan arall o'r genedl wedi ei reoli gan yr Unol Daleithiau a gelwir hi yn Samoa America. Rhwng 1924 a 1997 roedd tîm rygbi Samoa yn cael ei galw'n tîm "Gorllewin Samoa" - a dyna sydd ar yr archif. Ar 4 Gorffennaf 1997, newidiodd Gorllewin Samoa ei henw'n ffurfiol i Samoa,[3] er i ran Americanaidd y genedl brotestio gan ddweud fod y newid enw yn tanseilio ei hunaniaeth.[4]
Yr "American Samoa Rugby Union" a ffurfiwyd yn 1990 yw corf llywodraethol uchaf rygbi'r undeb yn Samoa America a ni ddaeth yn aelod o'r IRB nes 2012.
Hanes
golyguSefydlu Rygbi Rhyngwladol
golyguDaeth y Brodyr Marist â’r gêm o rygbi i Orllewin Samoa ym 1924 a ffurfiwyd y !Western Samoa Rugby Football Union" yn 1924. Ar 18 Awst 1924, chwaraeodd Gorllewin Samoa ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn Ffiji ym mhrifddinas Samoa, Apia, gyda'r Ffijiaid yn ennill 6–0. Chwaraewyd y gêm am 7 y bore er mwyn caniatáu amser i'r Samoaid gyrraedd y gwaith wedi hynny ac fe'i chwaraewyd ar gae gyda choeden fawr ar y llinell hanner ffordd. Enillwyd yr ail gêm gan y Samoaid, 9–3 gan ddod â'r gyfres yn gyfartal.
Ym 1954 ymwelodd Gorllewin Samoan â'i cymdogion yn y Môr Tawel, Ffiji a Tonga, ond bu'n rhaid aros 20 mlynedd arall cyn i daith o amgylch Seland Newydd gael ei chynnal. Enillodd y Samoiaid un o wyth gêm ar y daith honno.
Yn 1982, sefydlwyd y cystadleuaeth triphlyg draddodiadol rhwng Tonga, Ffiji a Gorllewin gyda'r Samoaid yn ennill y twrnamaint cyntaf.
Ym 1988 cynhaliwyd taith 14 gêm o amgylch Ewrop cyn cyfres gemau rhagbrofol Cwpan y Byd a gynhaliwyd yn Tokyo. Llwyddodd Gorllewin Samoa i gymhwyso ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 1991 a gynhaliwyd ym Mhrydain. Fe wnaethant gael effaith enfawr. Ar ôl ysgubo Cymru 16–13 o’r neilltu yng Nghaerdydd a threchu’r Ariannin 35–12, a cholli 3–9 o drwch blewyn i bencampwyr Awstralia yn eu gemau grŵp, cafodd Gorllewin Samoa, gwlad â phoblogaeth o 160,000, ei hun yn rownd yr wyth olaf yn erbyn yr Alban yn Murrayfield. Enillodd yr Albanwyr yn gyffyrddus 28–6, ond roedd y Samoiaid yn amlwg yn dîm personoliaeth y twrnamaint.
Yr 1990au
golyguDros y ddwy flynedd nesaf cafodd yr ochr nifer o fuddugoliaethau nodedig. Roedd y cyflawniad mwyaf rhagorol yn rygbi saith bob ochr lle enillodd Twrnamaint 7-bob-ochr Hong Kong yn 1993 a'r Middlesex Sevens yn 1992. Profodd Cwpan Rygbi'r Byd 1995 yn Ne Affrica fod y tîm yn perthyn i'r cwmni gorau. Fe gyrhaeddon nhw rownd yr wyth olaf unwaith eto ar ôl ennill dros yr Ariannin a'r Eidal, ond cawsant eu curo 42–14 gan Dde Affrica y tîm a enillodd y Gwpan yn y pen draw. Ar ôl y Cwpan, aeth Manu Samoa ar daith 13 gêm o amgylch Lloegr a’r Alban, gan gael gêm gyfartal 15–15 gyda’r Albanwyr a cholli 27–9 i Loegr.
Gyda dyfodiad rygbi proffesiynol ym 1995 roedd yn hanfodol i Manu Samoa ddatblygu strwythur gweinyddol newydd. Gwnaethpwyd hyn yn bosibl gyda Fay Richwhite ac Undeb Rygbi Gorllewin Samoaidd yn ymuno i ffurfio Manu Samoa Rugby Limited. Buddsoddodd Fay Richwhite $5 miliwn rhwng 1995 a 2004 mewn rygbi Samoaidd.[5][6]
Cwpanau'r Byd Diweddar
golygu- Cwpan Rygbi'r Byd 1999 - Yn y flwyddyn y cynhaliwyd y Cwpan yng Nghymru, daeth y Samoaid i'r amlwg unwaith eto gyda buddugoliaeth sioc arall rhwng 38 a 31 dros Gymru yng nghemau'r grwpiau. Fe gollon nhw allan i'r Alban unwaith eto yn rownd yr wyth olaf.
- Cwpan Rygbi'r Byd 2003 - Cymhwysodd Manu Samoa ar gyfer Cwpan y Byd ond gan ganfod eu hunain mewn grŵp anodd oedd yn cynnwys gemau yn erbyn Lloegr a De Affrica. Yn un o gemau'r twrnamaint, fe wnaethant arwain pencampwyr Lloegr am y rhan fwyaf o'r gêm cyn colli 35–22.
- Cwpan Rygbi'r Byd 2007 - Er i Samoa guro UDA aethant ddim pellach na cymal y grŵp.
- Cwpan Rygbi'r Byd 2011 - Cymwysodd Samoa gan guro Papwa Gini Newydd 73–12 ym Mhort Moresby ar 18 Gorffennaf 2009. Fe wnaethant ennill 188–19 ar agregad dros ddwy gêm yn erbyn Papwa Gini Newydd, ar ôl ennill 115–7 ym Mharc Apia yr wythnos flaenorol.[7] Curodd Samoa Ffiji a Namibia ond colli i Gymru a De Affrica.
- Cwpan Rygbi'r Byd 2015 - Curodd Samoa yr UDA eto yn y Gwpan yma ond colli i Siapan a cholli i'r Alban ond mewn gêm hynod o agos, 33-36.
Cymru a'r Samoaid
golyguRhwng 1986 a 2017 bu i Gymru chwarae Samoa 10 gwaith, gan ennill 6 a cholli 4 i Samoa.[8]
Mae Cymru wedi chwarae rhan ffurfiannol yn natblygiad y gêm rynglwadol ar ynysoedd Samoa. Bu i Gymru ymweladâ'r wlad yn 1982 ac ennill y prawf 32–16 yn Apia. Arweiniodd y daith at ymweliad yn ôl â Chymru gan agor y drws i Samoa i rygbi ryngwladol a'r ansicrwydd am ei statws fel gwlad. Serch hynny, ni wahoddwyd Gorllewin Samoa i Gwpan Rygbi'r Byd gyntaf ym 1987.
Bu i'r Samoaid gystadlu yng Nghwpan Rygbi'r Byd 1991 a gynhaliwyd ym Mhrydain gan greu sioc fawr drwy guro Cymru 16-13 yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd. Dywedodd un ffan o Gymru yn druenus ar ôl trechu Cymru, "Mae'n waith da nad oeddem ni'n chwarae Samoa i gyd."
Bu i Gymru golli eto i Orllewin Samoa mewn gêm yng Nghwpan y Byd 1999, 31-38.[8]
Yn 2019 gwlwodd undebau rygbi Samoa, Tonga a Ffiji ar i wledydd mawr rygbi Ewrop i ddod i gytundeb i roi canran o elw eu gemau gyda'r timau tuag at y timau llai. Dywedir y byddai rhannu elw gyda’i wledydd fyddai’n trawsnewid datblygiad rygbi yno. Dywed Dan Leo y byddai 10% o elw o gêm sydd wedi’i werthu allan yn Twickenham yn gallu talu am raglenni tîm cyntaf rygbi Samoa am gyfnod o dair blynedd.[9]
Record Cwpan Rygbi'r Byd
golyguBlwyddyn | Canlyniad |
---|---|
1987 | Dim gwahoddiad |
1991 | Wyth olaf |
1995 | Wyth olaf |
1999 | Wyth olaf play-offs |
2003 | Cymal y grŵp |
2007 | Cymal y grŵp |
2011 | Cymal y grŵp |
2015 | Cymal y grŵp |
2019 | Cymal y grŵp |
Record rhyngwladol
golygu30 safle uchaf ar 10 Chwefror 2020[10] | |||
Safle | Newid* | Tîm | Pwyntiau |
1 | De Affrica | 94.19 | |
2 | Seland Newydd | 92.11 | |
3 | Lloegr | 87.80 | |
4 | Iwerddon | 85.36 | |
5 | Cymru | 84.28 | |
6 | Ffrainc | 82.37 | |
7 | Awstralia | 81.90 | |
8 | Japan | 79.28 | |
9 | Yr Alban | 78.58 | |
10 | Yr Ariannin | 78.31 | |
11 | Ffiji | 76.21 | |
12 | Georgia | 72.70 | |
13 | Yr Eidal | 72.04 | |
14 | Tonga | 71.44 | |
15 | Samoa | 70.72 | |
16 | Sbaen | 68.28 | |
17 | Unol Daleithiau America | 68.10 | |
18 | Wrwgwái | 67.41 | |
19 | Rwmania | 65.11 | |
20 | Portiwgal | 62.40 | |
21 | Hong Cong | 61.23 | |
22 | Canada | 61.12 | |
23 | Namibia | 61.01 | |
24 | Yr Iseldiroedd | 60.08 | |
25 | Rwsia | 59.90 | |
26 | Brasil | 58.89 | |
27 | Gwlad Belg | 57.57 | |
28 | Yr Almaen | 54.64 | |
29 | Chile | 53.83 | |
30 | De Corea | 53.11 | |
*Newid o'r wythnos flaenorol | |||
Safleoedd blaenorol Samoa | |||
Ffynhonnell: World Rugby - Diweddarwyd y graff i 7 Ionawr 2019[10] |
Gweler isod dabl yn cynrychioli'r gemau prawf cystadleuol gan dîm cenedlaethol Tonga hyd ar 25 Awst 2019.[11]
Gwrthwynebwr | Chwarae | Ennill | Colli | Cyfartal | % Ennill | Pwyntiau o blaid | Pwyntiau yn erbyn | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yr Ariannin | 4 | 3 | 1 | 0 | 75% | 111 | 82 | +29 |
Awstralia | 5 | 1 | 4 | 0 | 20.00% | 58 | 204 | −146 |
Gwlad Belg | 1 | 1 | 0 | 0 | 100.00% | 37 | 8 | +29 |
Canada | 6 | 6 | 0 | 0 | 100.00% | 169 | 103 | +66 |
Lloegr | 8 | 0 | 8 | 0 | 0.00% | 114 | 292 | -178 |
Ffiji | 53 | 20 | 30 | 3 | 37.74% | 921 | 1049 | -128 |
Fiji XV | 3 | 0 | 3 | 0 | 0.00% | 20 | 58 | -38 |
Ffrainc | 4 | 0 | 4 | 0 | 0.00% | 49 | 156 | -107 |
Georgia | 5 | 1 | 3 | 1 | 20.00% | 105 | 91 | +24 |
Yr Almaen | 2 | 2 | 0 | 0 | 100.00% | 108 | 43 | +65 |
Iwerddon | 6 | 1 | 5 | 0 | 16.67% | 103 | 209 | -106 |
yr Eidal | 7 | 5 | 2 | 0 | 71.42% | 175 | 109 | +66 |
Japan | 15 | 11 | 4 | 0 | 73.33% | 482 | 273 | +209 |
De Corea | 1 | 1 | 0 | 0 | 100.00% | 74 | 7 | +67 |
Namibia | 2 | 2 | 0 | 0 | 100.00% | 89 | 25 | +64 |
Seland Newydd | 7 | 0 | 7 | 0 | 0.00% | 72 | 411 | -339 |
Papua Gini Newydd | 2 | 2 | 0 | 0 | 100.00% | 188 | 19 | +169 |
Rwmania | 2 | 0 | 2 | 0 | 0.00% | 37 | 49 | -12 |
yr Alban | 11 | 1 | 9 | 1 | 9.09% | 193 | 298 | -105 |
De Affrica | 9 | 0 | 9 | 0 | 0.00% | 99 | 431 | -332 |
Sbaen | 1 | 1 | 0 | 0 | 100.00% | 28 | 10 | +18 |
Tonga | 65 | 34 | 27 | 4 | 51.56% | 1144 | 973 | +171 |
Unol Daleithiau America | 7 | 5 | 2 | 0 | 71.42% | 156 | 128 | +28 |
Wrwgwái | 1 | 1 | 0 | 0 | 100.00% | 60 | 13 | +47 |
Cymru | 10 | 4 | 6 | 0 | 40.00% | 180 | 235 | -55 |
West Germany | 1 | 1 | 0 | 0 | 100.00% | 54 | 9 | +45 |
Total | 238 | 103 | 126 | 9 | 45.16% | 4836 | 5285 | -449 |
Ceir cip o Samoa yn chwarae yn erbyn De Affrica yn y ffilm, Invictus, sydd wedi ei seilio ar hanes Cwpan Rygbi'r Byd 1995 a themâu ôl-Apartheid yn y wlad.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ We quit: SRU Archifwyd 2012-02-20 yn y Peiriant Wayback Samoa Observer
- ↑ "World Rugby Rankings". World Rugby. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-11. Cyrchwyd 2019-08-26.
- ↑ Constitution Amendment Act (No 2) 1997. Paclii.org. Retrieved on 9 November 2016.
- ↑ "Samoan History". U.S. Embassy in Samoa. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-09-30. Cyrchwyd 17 January 2017.
- ↑ "Samoa's Prime Minister praises banker, Sir Michael Fay, for supporting Manu Samoa". Radio New Zealand International. 18 April 2004. Cyrchwyd 7 November 2011.
- ↑ "Fay: Samoans need change". The New Zealand Herald. Cyrchwyd 8 July 2015.
- ↑ "Samoa qualify for 2011 World Cup". BBC Sport. 18 July 2009. Cyrchwyd 4 August 2009.
- ↑ 8.0 8.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-26. Cyrchwyd 2019-08-26.
- ↑ https://golwg360.cymru/chwaraeon/rygbi/552263-undebau-rygbi-samoa-tonga-fiji-eisiau-gwneud
- ↑ 10.0 10.1 "Men's World Rankings". World Rugby. Cyrchwyd 30 Medi 2019.
- ↑ Samoa rugby statistics
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Swyddogol Manu Samoa Archifwyd 2019-08-31 yn y Peiriant Wayback
- Undeb Rygbi Samoa
- Ystadegau Cymru v Samoa Archifwyd 2019-08-26 yn y Peiriant Wayback