Siwmper gyda dyluniad Nadoligaidd neu aeafol yw siwmper Nadolig neu siwmper 'Dolig. Am flynyddoedd cafodd ei ystyried yn ddilledyn hen ffasiwn a gwirion, ac yn ystrydeb o anrheg Nadolig. Yn y 2010au daeth i fod yn eitem boblogaidd a ffasiynol, i raddau o ganlyniad i'w natur camp ac eironig, ac o'r herwydd, roedd nifer o werthwyr dillad yn dylunio siwmperi Nadolig.

Siwmper Nadolig

Mae'r elusen Achub y Plant yn cynnal Diwrnod Siwmper Nadolig yn flynyddol i godi arian drwy annog gwisgo siwmper Nadolig.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Gwisgwch siwmper Nadolig i helpu plant ar draws y byd. Golwg360 (2 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 20 Rhagfyr 2014.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddillad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.