Sonny Barger
Beiciwr modur, awdur, ac actor [o'r Unol Daleithiau oedd Ralph Hubert "Sonny" Barger, Jr. (8 Hydref 1938 – 29 Mehefin 2022) sydd yn nodedig am arwain yr Hells Angels am ddeugain mlynedd, o 1958 i 1998, ac o bosib efe yw'r aelod amlycaf yn hanes y clwb beic modur drwg-enwog hwnnw.
Sonny Barger | |
---|---|
Sonny Barger yn 2019 | |
Ganwyd | Ralph Hubert Barger 8 Hydref 1938 Modesto |
Bu farw | 29 Mehefin 2022 o canser yr afu Livermore |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | llenor, rasiwr motobeics |
Gwefan | http://sonnybarger.com |
Chwaraeon |
Ganed ef ym Modesto yng nghanolbarth Califfornia, Unol Daleithiau America, a chafodd ei fagu yn Oakland ar lannau Bae San Francisco. Dociwr alcoholig oedd ei dad, a gadawodd ei fam y teulu pan oedd Sonny yn ifanc. Gadawodd yr ysgol yn 16 oed i ymuno â'r fyddin, gan ffugio'i dystysgrif geni er mwyn gallu listio heb ganiatâd ei rieni.[1] Pedwar mis ar deg yn ddiweddarach, wedi i'w gelwydd ddod i'r amlwg, fe'i rhyddhawyd o'r fyddin a dychwelodd i fyw gyda'i deulu yn Oakland. Gweithiodd ar y dociau, ac yno cyfarfu a chyn-filwyr eraill a oedd yn ymddiddori mewn beiciau modur. Ym 1956, ymunodd â chlwb beiciau modur yr Oakland Panthers.[2]
Ym 1957, sefydlodd Barger a Don "Boots" Reeves adran leol, neu siapter, o'r Hells Angels yn Oakland, gan wneud cysylltiad â'r fam-siapter yn San Bernardino, Califfornia. Wedi i lywydd y clwb gael ei garcharu ym 1958, dyrchafwyd Barger yn arweinydd yr Hell Angels, yn 20 oed, a symudodd y pencadlys i Oakland. Yn ogystal â'i ddyletswyddau i'r clwb, gweithiodd Barger yn beiriannwr a byddai'n cael ei arestio yn fynych am feddu ar ganabis ac ymosod ar elynion o feicwyr.
Dan arweiniad Barger, daeth yr Hells Angels yn gysylltiedig â gwrthddiwylliant y 1960au, ac ymddengys Barger yn y llyfrau Hell's Angels (1966) gan Hunter S. Thompson a The Electric Kool-Aid Acid Test (1968) gan Tom Wolfe. Ymddiswyddodd o'i waith llafuriol, a gweithiodd fel cynghorwr technegol i'r llu o ffilmiau "ecsbloetiol" a gynhyrchwyd am feicwyr modur ifainc yn y 1960au, gan gynnwys Wild Angels (1966) ac Hell's Angels on Wheels (1967). Portreadodd ei hun yn y ffilm Hell's Angels '69 (1969).
Cafodd Barger ei gyhuddo o sawl trosedd difrifol, ac o'r diwedd fe'i cafwyd yn euog ym 1973 o feddu ar heroin ac arfau—ac yntau wedi ei gael yn euog o ffeloniaeth o'r blaen—a fe'i dedfrydwyd felly i garchar am gyfnod o 10 mlynedd hyd at ddiwedd ei oes. Er gwaethaf, byddai'n bwrw dim ond pedair blynedd a hanner o'i ddedfryd, ac o'i gell yng Ngharchar Folsom dywed iddo barhau i reoli'r Hells Angels.[1][2] Derbyniodd Barger barôl yn Nhachwedd 1977, a chyn bo hir bu dan erlyniaeth ddifrifol eto. Ym 1979 fe'i cyhuddwyd o racetirio dan y gyfraith ffederal, ond fe'i cafwyd yn ddieuog.
Cafodd Barger ganser y gwddf ym 1983, a chafodd lawdriniaeth i dynnu tannau'r llais. Dysgodd i siarad unwaith eto trwy ddefnyddio'r cyhyrau yn ei lwnc.[2] Ym 1987 cafodd ei arestio ar gyhuddiadau o gynllwynio i fasnachu cyffuriau a gynnau yng Nghaliffornia, a fe'i rhoddwyd ar brawf yn Louisville, Kentucky, ar gyhuddiad o ddarparu ffrwydron i'w defnyddio yn erbyn clwb yr Outlaws yn y dalaith honno. Yn ei amddiffyniad, honnai Barger iddo gael ei lithio i droseddu gan yr FBI, a hynny trwy ddulliau anghyfreithlon; fodd bynnag, fe'i cafwyd yn euog a threuliodd tair mlynedd a hanner arall yn y carchar.
Ymddiswyddodd Barger o arweinyddiaeth yr Hells Angels yn y 1990au, ond parhaodd yn aelod o'r clwb. Ymsefydlodd yn Arizona o 1998 i 2016, ac yno cafodd ei garcharu am wyth niwrnod wedi iddo ymosod ar ei drydedd wraig, Beth.[2] Yn ei henaint, ysgrifennai Barger sawl chwe llyfr, gan gynnwys atgofion, nofelau, a chyflwyniad i reidio beiciau modur. Yn 2010–12, ymddangosodd yn y gyfres deledu Sons of Anarchy. Priododd Sonny Barger pedair gwaith, yn gyntaf i Elsie Mae George, a fu farw o emboledd ym 1967; yn ail i Sharon Gruhlke, a phriododd tra yn y carchar yn y 1970au, hyd at eu hysgariad; yna i Beth Noel Black, hyd at eu hysgariad; ac yn olaf i Zorana Katzakian o 2005 hyd at ddiwedd ei oes. Dychwelodd i'w fro enedigol yn 2016, a chwe mlynedd yn hwyrach bu farw Sonny Barger yn ei gartref ar gyrion Oakland, Califfornia, yn 83 oed.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Hell's Angel: The Life and Times of Sonny Barger and the Hell's Angels Motorcycle Club (Efrog Newydd: William Morrow & Co., 2000). Gyda Keith a Kent Zimmerman.
- Ridin' High, Livin' Free: Hell-Raising Motorcycle Stories (Efrog Newydd: William Morrow & Co., 2002). Gyda Keith a Kent Zimmerman.
- Dead in 5 Heartbeats (Efrog Newydd: William Morrow & Co., 2003). Gyda Keith a Kent Zimmerman.
- Freedom: Credos from the Road (Efrog Newydd: William Morrow & Co., 2005).
- 6 Chambers, 1 Bullet (Efrog Newydd: William Morrow & Co., 2006). Gyda Keith a Kent Zimmerman.
- Let's Ride: Sonny Barger's Guide to Motorcycling (Efrog Newydd: William Morrow & Co., 2010). Gyda Darwin Holmstrom.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Clay Risen, "Sonny Barger, Face of the Hells Angels, Dies at 83", The New York Times (30 Mehefin 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Gorffennaf 2022.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Michael Carlson, "Sonny Barger obituary", The Guardian (17 Gorffennaf 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Hydref 2022.