Oesoffagws

(Ailgyfeiriad o Y llwnc)

Pibell bilennog a chyhyrol a geir mewn rhai anifeiliaid ac sy'n symud y bwyd o'r argeg (ffaryncs) i'r stumog ydyw'r (o)esoffagws, y sefnig, y llwnc neu'r bibell fwyd (Saesneg: (o)esophagus, gullet). Mae bwyd yn cael ei basio drwyddo ar ei daith o'r argeg i lawr y gwddf rhwng y tracea a'r asgwrn cefn a'r tu ôl i'r broncws chwith lle mae'n tyllu'r llengig ychydig i'r chwith o'r llinell ganol ac yn ymuno â phorth y stumog. O'r Lladin Canol y daw'r gair a hwnnw yn ei dro'n newyddair meddygol wedi'i fathu o'r Hen Roeg oisophágos (οισοφάγος) ‘mynediad y bwyd’. Mewn bodau dynol caiff ei leoli ar yr un lefel â fertebra C6 ac mae'n 25–30 cm o hyd, gan ddiweddu yng mhorth y stumog.

Oesoffagws
Enghraifft o'r canlynolmath o organ, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathorgan gyda cheudod organ, Q4364110, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan ollwybr gastroberfeddol dynol Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaffaryncs, stumog Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

1: Y geg
2: Taflod
3: Tafod bach
4: Tafod
5: Dannedd
6: Chwarennau poer
7: Isdafodol
8: Isfandiblaidd
9: Parotid
10: Argeg (ffaryncs)
11: Sefnig (esoffagws)
12: Iau (Afu)
13: Coden fustl
14: Prif ddwythell y bustl
15: Stumog
16: Cefndedyn (pancreas)
17: Dwythell bancreatig
18: Coluddyn bach
19: Dwodenwm
20: Coluddyn gwag (jejwnwm)
21: Glasgoluddyn (ilëwm)
22: Coluddyn crog
23: Coluddyn mawr
24: Colon trawslin
25: Colon esgynnol
26: Coluddyn dall (caecwm)
27: Colon disgynnol
28: Colon crwm
29: Rhefr: rectwm
30: Rhefr: anws

Mae iddo dair rhan: y rhan yddfol, thorasig ac abdomenol.

Ei waith

golygu

Drwy'r broses o wringhelliad (neu beristalisis), mae bwyd yn teithio drwyddo i'r stumog. Gwringhelliad ydy'r broses o gyhyrau'n cyfangu gan leihau a gwthio'r bwyd ar ei daith. Gan nad oes ganddo leinin mwcws (yn wahanol i'r stumog) gall asid y stumog gnoi i mewn iddo gan ei greithio. I fod yn fanwl gywir, mae'n cysylltu'r argeg sef y lle gwag hwnnw a ddefnyddir hefyd gan y system resbiradu â'r stumog ble mae'r ail ran o'r broses dreulio yn digwydd.