Mae canabis, a elwir hefyd yn mariwana[1], ganja (Hindi: गांजा gānjā), gêr, reu,[2] neu mwg drwg yn gynnyrch seicoweithredol sy'n deillio o'r planhigyn Canabis. Mae ffurf berlysiol y cyffur yn cynnwys blodau aeddfed y planhigyn wedi'u sychu ynghyd â dail o'r planhigyn. Mae'r ffurf resin, sy'n cael ei alw'n hashish yn bennaf, yn cynnwys blew chwarennol wedi'u casglu'r o'r un defnydd planhigyn. Y prif gyfansoddyn cemegol biolegol byw mewn canabis yw Δ9-tetrahydrocannabinol (delta-9-tetrahydrocannabinol), a gyfeirir ato'n gyffredinol fel THC. Mae'r ddynol ryw wedi bod yn defnyddio canabis ers cyn hanes, ond ers yr 20g mae cynnydd wedi bod yn y defnydd ohono at ddibenion hamdden, crefyddol, ysbrydol a meddygol. Amcangyfrifir bod tua phedwar y cant o boblogaeth oedolion y byd yn defnyddio canabis yn flynyddol, a 0.6 y cant yn ddyddiol.[3] Daeth bod ym meddiant, defnyddio neu werthu cynnyrch seicoweithredol canabis yn anghyfreithiol yn y rhan fwyaf o wledydd y byd yn ystod yr 20g. Ers hynny, mae rhai gwledydd wedi ceisio gwahardd y defnydd o ganabis yn llwyr, tra bo gwledydd eraill wedi dewis ei gyfreithloni neu leihau lefel difrifoldeb bod â chanabis yn eich meddiant.

Blodyn sychedig canabis

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Diffiniad y Compact Oxford Ditctionary". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-11-05. Cyrchwyd 2007-12-10.
  2. Trafodaeth am darddiad y gair Reu Archifwyd 2011-07-28 yn y Peiriant Wayback ar maes-e
  3. Cannabis: Why we should care World Drug Report 2006, Cyfrol 1 tud.14