Sord
Tref yn Swydd Fingal yn nwyrain Gweriniaeth Iwerddon yw Sord[1] neu Sord Cholmcille (Saesneg: Swords). Saif gerllaw Maes Awyr Dulyn. Daeth yn brif dref Swydd Fingal pan grewyd y swydd honno yn 1994 trwy rannu Swydd Dulyn.
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 36,924 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Fingal |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Arwynebedd | 11.35 km² |
Uwch y môr | 3 metr |
Cyfesurynnau | 53.4597°N 6.2181°W |
Sefydlwydwyd gan | Colum Cille |
Dywedir i'r dref gael ei sefydlu gan Sant Colmcille tua 560. Mae'r boblogaeth wedi tyfu'n sylweddol yn y blynyddoedd diweddar; yn 2011 roedd yn 42,738. Mae'r castell yn atyniad i dwristiaid, ac roedd abaty yma hefyd.
Yma y dygwyd corff Brian Boru ar ôl Brwydr Clontarf, ac yma y magwyd Gruffudd ap Cynan, a ddaeth yn frenin Gwynedd yn ddiweddarach.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022