Spectre (ffilm 2015)

ffilm gyffro llawn cyffro gan Sam Mendes a gyhoeddwyd yn 2015

Spectre yw'r bedwaredd ffilm ar hugain yng nghyfres ffilm James Bond. Cynhyrchwyd y ffilm gan Eon Productions. Mae'n serennu Daniel Craig yn ei bedwerydd perfformiad fel James Bond,[1] a Christoph Waltz fel Franz Oberhauser, dihiryn y ffilm.[2] Cyfarwyddwyd y ffilm gan Sam Mendes a dyma oedd yr ail ffilm Bond iddo gyfarwyddo ar ôl Skyfall. Ysgrifennwyd y ffilm gan Robert Wade, Neal Purvis a John Logan. Adrodda'r ffilm hanes cyfarfyddiad cyntaf Bond gydag asiantaeth troseddol byd-eang o'r enw SPECTRE, gan ddynodi ymddangosiad cyntaf yr asiantaeth hwn ers y ffilm Diamonds Are Forever yn 1971.

Spectre

Poster cynnar
Cyfarwyddwr Sam Mendes
Cynhyrchydd Michael G. Wilson
Barbara Broccoli
Ysgrifennwr Neal Purvis
Robert Wade
John Logan
Serennu Daniel Craig
Cerddoriaeth Thomas Newman
Sinematograffeg Hoyte van Hoytema
Golygydd Lee Smith
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Eon Productions
Dosbarthydd Metro-Goldwyn-Mayer
Columbia Pictures
Dyddiad rhyddhau 26 Hydref 2015 (Deyrnas Unedig)
Gwlad Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg
Rhagflaenydd Skyfall

Rhyddhawyd Spectre ar 26 Hydref 2015 yn y Deyrnas Unedig ar yr un noson a'r noson agoriadol yn Llundain,[3] cyn rhyddhau'r ffilm yn fyd-eang ar 6 Tachwedd.[4][5]

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ysbïo. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.