Arweinydd ysbrydol o India oedd Aurobindo Ghose (15 Awst 1872 - 5 Rhagfyr 1950), sy'n fwy adnabyddus fel Sri Aurobindo. Roedd yn athronydd, bardd, newyddiadurwr a chenedlaetholwr Indiaidd.

Sri Aurobindo
Ganwydঅরবিন্দ ঘোষ Edit this on Wikidata
15 Awst 1872 Edit this on Wikidata
Sri Aurobindo Bhawan Edit this on Wikidata
Bu farw5 Rhagfyr 1950 Edit this on Wikidata
Puducherry Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Raj Prydeinig, India, Dominion of India Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, cyfieithydd, athronydd, awdur ysgrifau, llenor, beirniad llenyddol, athro cadeiriol, gwleidydd, gwas sifil, chwyldroadwr, yogi, prifathro, golygydd, Vice-principal Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Maharaja Sayajirao, Baroda Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSavitri, The Life Divine, The Synthesis of Yoga, The Mother With Letters on the Mother, The Secret of the Veda, Isha Upanishad, Essays on the Gita Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadVedanta, Henri Bergson, John Dewey Edit this on Wikidata
TadKrishnadhan Ghosh Edit this on Wikidata
MamSwamalata Devi Edit this on Wikidata
PriodMrinalini Devi Edit this on Wikidata
PerthnasauRajnarayan Basu, Bhupal Chandra Bose, Dr. Sisir Kumar Bose Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.sriaurobindoashram.org Edit this on Wikidata
llofnod

Fe' ganwyd yn Kolkata, India. Astudiodd ar gyfer Gwasanaeth Sifil India yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt, Lloegr, o 1890 hyd 1892. Erbyn 1910 roedd yn arweinydd dylanwadol yn y mudiad dros annibyniaeth India o reolaeth drefedigaethol Prydain. Daeth yn ddiwygiwr ysbrydol, gan gyflwyno ei weledigaethau ar gynnydd dynol ac esblygiad ysbrydol. Ym 1926, sefydlodd, gyda chymorth ei gydweithwraig, Mirra Alfassa, ashram (cymuned ysbrydol) yn Puducherry, de-ddwyrain India.

Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.