Stadiwm Ahmad bin Ali
Stadiwm amlbwrpas yn Al Rayyan, Qatar yw Stadiwm Ahmad bin Ali (Arabeg: ملعب أحمد بن علي), [1] [2] ac fe'i gelwir hefyd yn Stadiwm Al-Rayyan. Fe'i defnyddir yn bennaf ar gyfer gemau pêl-droed ar hyn o bryd ac mae'n gartref i Glwb Chwaraeon Al-Rayyan a Chlwb Chwaraeon Al-Kharitiyath. Enwyd y stadiwm ar ôl Ahmad bin Ali Al Thani, Emir Qatar rhwng 1960 a 1972. [3] Roedd gan yr hen stadiwm, a adeiladwyd yn 2003, gapasiti o 21,282 o seddi a chafodd ei ddymchwel yn 2015. [4] Mae gan y stadiwm newydd yn Al Rayyan le i 44,740 o seddi. [5]
Math | stadiwm |
---|---|
Agoriad swyddogol | 2003 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Umm Al Afaei |
Sir | Bwrdeistref Al Rayyan |
Gwlad | Qatar |
Cyfesurynnau | 25.3305°N 51.3413°E |
Perchnogaeth | Qatar Football Association |
Cwpan y Byd FIFA 2022
golyguMae Stadiwm Ahmad bin Ali yn un o wyth stadiwm sydd wedi cael eu haddasu ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022. [6] [7] Cafodd hen Stadiwm Ahmad bin Ali ei ddymchwel yn 2015 [8] a dechreuwyd y gwaith o adeiladu'r stadiwm newydd yn gynnar yn 2016. [9] Cynhaliwyd pedair gêm yn y stadiwm yn ystod Cwpan Arabaidd FIFA 2021. [10] Bydd Stadiwm Ahmad bin Ali yn cynnal saith gêm yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022 ac ar ôl y gystadleuaeth bydd y stadiwm yn cael ei leihau i 21,000 o seddi. [11]
Dyddiad | Tîm #1 | Canlyniad | Tîm #2 | Rownd | Presenoldeb |
---|---|---|---|---|---|
21 Tachwedd 2022 | Unol Daleithiau America | v | Cymru | Grŵp B | |
23 Tachwedd 2022 | Gwlad Belg | v | Canada | Grŵp F | |
25 Tachwedd 2022 | Cymru | v | Iran | Grŵp B | |
27 Tachwedd 2022 | Japan | v | Costa Rica | Grŵp E | |
29 Tachwedd 2022 | Cymru | v | Lloegr | Grŵp B | |
1 Rhagfyr 2022 | Croatia | v | Gwlad Belg | Grŵp F | |
3 Rhagfyr 2022 | Enillwyr Grŵp C | v | Ail safle Grŵp D | Rownd yr 16 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ahmad Bin Ali Stadium". Supreme Committee for Delivery & Legacy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-31. Cyrchwyd 1 April 2022.
- ↑ "Ahmad bin Ali Stadium". FIFA. Cyrchwyd 1 April 2022.
- ↑ "Qatar inaugurates fourth stadium for the 2022 World Cup in Al Rayyan". Goal. 18 December 2020. Cyrchwyd 1 April 2022.
- ↑ "New stadium: Ahmad bin Ali Stadium, the desert dune". stadiumdb.com. 26 January 2021. Cyrchwyd 15 February 2022.
- ↑ "Al Rayyan Stadium Qatar". onlineqatar.com. 13 May 2019. Cyrchwyd 8 September 2021.
- ↑ "2022 Qatar World Cup: Al Rayyan stadium achieves major sustainability rating". goal.com. 12 October 2020. Cyrchwyd 31 August 2021.
- ↑ "Al Rayyan Stadium achieves prestigious sustainability ratings". thepeninsulaqatar.com. 11 October 2020. Cyrchwyd 8 September 2021.
- ↑ "Ahmed bin Ali Stadium (Al-Rayyan Stadium) – until 2014". stadiumdb.com. Cyrchwyd 1 February 2022.
- ↑ "Qatar 2022: Al Rayyan Stadium sees first concrete pouring". StadiumDB. 17 October 2016. Cyrchwyd 30 April 2017.
- ↑ "2021 FIFA Arab Cup: Participating teams, fixtures and all you need to know". goal.com. 18 December 2021. Cyrchwyd 15 February 2022.
- ↑ "Qatar Unveils Fifth World Cup Venue: Al Rayyan Stadium by Pattern Architects". archdaily.com. 23 April 2015. Cyrchwyd 5 January 2021.