Stanley Llewellyn Wood

Arlunydd Cymreig o dras Seisnig oedd Stanley Llewellyn Wood (186721 Mawrth 1928). Roedd yn enwog am ei ddarluniau mewn cylchgronau anturiaethau i fechgyn, yn enwedig cylchgronau am geffylau a'r Gorllewin Gwyllt.[1]

Stanley Llewellyn Wood
Texas cowboy gan Stanley L. Wood (1866-1928)
Ganwyd10 Rhagfyr 1866 Edit this on Wikidata
Maendy Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mawrth 1928 Edit this on Wikidata
Palmers Green Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd, darlunydd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1885 Edit this on Wikidata

Ganwyd Stanley yn y Faendy, Casnewydd, yn yr hen Sir Fynwy, yn fab i'r cynhyrchydd sment Stanley James Wood a'i wraig Charlotte (Atkins gynt) o Lundain. Roedd gan y Stanley ifanc bedair chwaer hŷn, tair ohonynt wedi eu geni yn ne Lloegr ac un ohonynt hefyd yn enedigol o Gasnewydd. Magwyd Stanley yng Nghasnewydd yn ardal Eglwys y Drindod.

Teithiodd y teulu i'r Unol Daleithiau pan oedd Stanley yn 12 oed symudodd y teulu i fyw ar ransh yn Kansas. Bu farw'r tad, ac amgylchynwyd y tŷ gan ryfelwyr o lwyth brodorol yr Ute. Gorchmynodd Charlotte i'w phlant wisgo botasau marchogaeth ac ysbardunau, ac i droedio'n drwm drwy'r tŷ yn gwneud sŵn. Llwyddodd i dwyllo'r brodorion i gredu bod y tŷ yn llawn dynion, a gadawant y ransh.

"No Trust Here", darlun o gowboi ar bapur 9 x 5 modfedd (22.8 x 12.7cm.)

Dychwelodd y teulu i Brydain ac ymsefydlodd Stanley gyda'i fam Charlotte yn St Pancras, Llundain. Yno, dechreuodd Stanley ar ei yrfa fel arlunydd. Darluniodd ar gyfer papurau newydd a chylchgronau, gan gynnwys sawl cyhoeddiad i fechgyn. Darluniodd hefyd ar gyfer llyfrau straeon i fechgyn. Yn ogystal â'i brofiadau yn America, roedd bywyd Wood yn addas at gynnwys ei waith: roedd yn athletwr amryddawn, yn hoff o nofio, paffio, a marchogaeth, ac yn deithiwr. Peintiodd golygfeydd o'r Gorllewin Gwyllt a rhyfel, gan gynnwys brwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Priododd Mary Elizabeth Jenkins yn Fulham ar 21 Chwefror 1899. Cawsant tri mab: Stanley Montague, Henry Lawrence a Jack Steward. Roedd yn sâl yn wythnosau terfynol ei fywyd, ond gafaelai'r pin darlunio yn ei law hyd y diwedd. Bu farw yn ei gartref yn Palmers Green, Middlesex, yn 61 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. Artists and Illustrators of the Anglo-Boer War - Ryno Greenwall (Fernwood Press 1992)