Stefan Żeromski
Nofelydd, awdur straeon byrion, a dramodydd Pwylaidd yn yr iaith Bwyleg oedd Stefan Żeromski (14 Hydref 1864 – 20 Tachwedd 1925) sydd yn nodedig am ei nofelau naturiolaidd sydd yn ymwneud â phroblemau cymdeithasol.
Stefan Żeromski | |
---|---|
Ffugenw | Maurycy Zych, Józef Katerla, Stefan Iksmoreż |
Ganwyd | 14 Hydref 1864 Kielce |
Bu farw | 20 Tachwedd 1925 Warsaw |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl |
Galwedigaeth | llenor, dyddiadurwr, dramodydd, awdur ffuglen wyddonol |
Adnabyddus am | The Spring to Come |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd Gwlad Pwyl |
Partner | Oktawia Żeromska |
Plant | Adam Żeromski, Monika Żeromska |
Llinach | Q63531310 |
Gwobr/au | Cadlywydd Urdd Polonia Restituta, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta |
llofnod | |
Ganed i deulu tlawd, o dras uchelwrol, yn Strawczyn, Teyrnas Pwyl, yn Ymerodraeth Rwsia. Methodd ennill ei ddiploma o'r ysgol uwchradd, felly bu'n rhaid iddo astudio yn y brifysgol filfeddygol yn Warsaw. Gweithiodd yn diwtor mewn plastai cefn gwlad ac yna yn llyfrgellydd cynorthwyol yn y Swistir. Dychwelodd i Wlad Pwyl i weithio yn Llyfrgell Zamoyski yn Warsaw o 1897 i 1904. Ymsefydlodd yn Nałęczów ym 1905, ac ymgyrchodd dros addysg boblogaidd. Fe'i arestiwyd gan yr awdurdodau Rwsiaidd ym 1908. Symudodd i Baris o 1909 i 1912 cyn dychwelyd i Warsaw, ac yno bu farw yn 61 oed.[1]
Bu sawl esiampl o'i ffuglen, gan gynnwys ei ddau gasgliad cyntaf o straeon byrion a gyhoeddwyd ym 1895, yn ymwneud â chymdeithas Gwlad Pwyl yn sgil Gwrthryfel Ionawr 1863 yn erbyn y Rwsiaid. Dychwelodd at y thema honno yn ei stori fer "Echa leśne" (1905) a'r nofel delynegol Wierna rzeka (1912). Mae ei nofel gyntaf, y nofel hunangofiannol Syzyfowe prace (1897), yn portreadu profiad disgyblion Pwylaidd o Rwsieiddio diwylliannol yn yr ysgol. Ymhlith ei nofelau eraill mae Uroda życia (1913), Ludzie bezdomni (1900), Popioły (3 cyfrol, 1904), a Przedwiośnie (1925). Ysgrifennodd hefyd ddramâu, gan gynnwys Uciekła mi przepióreczka (1924).[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Stefan Żeromski. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Tachwedd 2020.