Gwleidydd Cymreig ac aelod o Blaid Cymru oedd Steffan Lewis (30 Mai 198411 Ionawr 2019). Roedd yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros Etholaeth ranbarthol Dwyrain De Cymru.[1]

Steffan Lewis
Ganwyd30 Mai 1984 Edit this on Wikidata
Ystrad Mynach Edit this on Wikidata
Bu farw11 Ionawr 2019 Edit this on Wikidata
o canser colorectaidd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 5ed Cynulliad Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata
Steffan Lewis
Aelod o Cynulliad Cenedlaethol Cymru
dros Dwyrain De Cymru
Mewn swydd
6 Mai 2016 – 11 Ionawr 2019
Rhagflaenwyd ganJocelyn Davies
Dilynwyd ganDelyth Jewell

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Magwyd Steffan Lewis ar aelwyd ddwyieithog ym Mhont-y-cymer ac yn Nhredegar. Mynychodd Ysgol Gynradd Swffryd cyn symud i Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon yn Abercarn ac yna i Ysgol Gyfun Gwynllyw. Graddiodd mewn Hanes ac Astudiaethau Americanaidd o Brifysgol Morgannwg ac yna bu Steffan yn gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol fel uwch swyddog ymchwilio a chyfathrebu.[2]

Gyrfa wleidyddol golygu

Roedd yn gynghorydd tref yn y Coed Duon. Yn 2010, cafodd ei ddewis fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Islwyn[3] a daeth yn drydydd.

Yn 2015, fe'i dewiswyd fel ymgeisydd ar frig rhestr Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Dwyrain De Cymru [4] ac fe'i hetholwyd yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016; yr aelod ieuengaf ar y pryd.[5]. Cafodd ei wneud yn lefarydd Materion Allanol Plaid Cymru, gyda chyfrifoldeb tros Brexit, materion allanol a rhyngwladol, a'r Cwnsler Cyffredinol.

Salwch a marwolaeth golygu

Blwyddyn un unig wedi iddo gymryd ei sedd yn y Senedd, cafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn yn Rhagfyr 2017, a chanfuwyd fod yr afiechyd wedi lledu i rannau eraill o'i gorff. Am fod y canser wedi datblygu'n sylweddol ac yn ei bedwerydd cyfnod, dywedodd ei feddygon nad oedd disgwyl iddo wella. Er gwaetha'r afiechyd aeth ymlaen gyda'i waith fel AC a llefarydd Plaid Cymru dros Brexit. Bu hefyd yn siarad yn agored am frwydro'r salwch a sut roedd yn ymdopi.[6]

Bu farw yn Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach ar 11 Ionawr 2019. Talwyd teyrngedau iddo ar draws y pleidiau yn y Cynulliad. Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru:

Bydd yn cael ei gofio fel gwleidydd neilltuol o dalentog a gyflawnodd gymaint yn ystod ei gyfnod fel gwleidydd etholedig, cyfnod sydd wedi ei dorri yn fyr mewn amgylchiadau torcalonnus."

Bywyd personol golygu

Roedd yn byw yn y Coed Duon gyda'i wraig Shona ac eu mab Celyn. Roedd ei ddiddordebau y tu allan i'r byd gwleidyddol yn cynnwys pêl-droed a theithio.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Steffan Lewis AC. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 10 Mai 2016.
  2.  Proffil Steffan Lewis, Gwefan Plaid Cymru. Plaid Cymru.
  3.  ‘Plaid o ddifrif am y Cymoedd’ – Ymgeisydd Islwyn. Plaid Cymru (24 Awst 2010). Adalwyd ar 10 Mai 2016.
  4.  Plaid Cymru yn cyhoeddi ymgeiswyr ar gyfer rhestr Dwyrain De Cymru. Plaid Cymru (18 Gorffennaf 2015).
  5.  Rhanbarth y Cynulliad - Dwyrain De Cymru. BBC Cymru Fyw.
  6. Marw’r Aelod Cynulliad, Steffan Lewis, yn 34 , Golwg360, 11 Ionawr 2019.