Stephanie Beacham

actores a aned yn 1947

Actores o Saesnes ydy Stephanie Beacham (ganwyd 28 Chwefror 1947).

Stephanie Beacham
Ganwyd28 Chwefror 1947 Edit this on Wikidata
Barnet Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata
PriodJohn McEnery Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.stephaniebeacham.net/ Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Bywyd Cynnar

golygu

Ganwyd Beacham yn Barnet, Gogledd Llundain, Lloegr yn un o bedwar o blant. Roedd ei mam, Joan, yn wraig tŷ a'i thad yn weithredwr yswiriant ac yn rheolwr gyfarwyddwr Stâd Grosvenor. Ychydig amser ar ôl ei genedigaeth, dywedwyd ei bod yn gwbl fyddar yn ei chlust dde gan fod ei mam wedi dal brech ieir pan oedd yn feichiog. Mae'n medru clywed tua 75% o seiniau arferol yn ei chlust chwith. Ar ôl iddi adael Ysgol y Frenhines Elizabeth i Ferched, teithiodd Beacham i Ffrainc lle astudiodd meim gydag Étienne St Creux cyn iddi fynychu RADA. Ei nod gwreiddiol oedd dysgu symudiadau dawns i blant byddar. Dechreuodd ei gyrfa fel model ac yna cafodd rannau fel acotres mewn nifer o ffilmiau.

Bywyd Personol

golygu

Priododd Beacham ei chyd-actor John McEnery rhwng 1973 a 1978. Cawsant ddau o blant, Phoebe a Chloe. Bellach mae gan Beacham ŵyr, Jude, sy'n ei galw'n "Glamma" yn hytrach na "Grandma". Dywedodd Beacham mai ei hŵyr oedd y rheswm dros iddi gymryd rhan mewn pantomeim.

Ffilmgraffiad

golygu
  • The Queen's Traitor (1967)
  • UFO (1970)
  • Dracula A.D. 1972 (1972)
  • -- And Now the Screaming Starts! (1973)
  • Schizo (1976)
  • Inseminoid (1981)
  • Tenko (1981–1982)
  • Sorrell and Son (1984)
  • Connie (1985)
  • Dynasty (1985, 1988 - 1989)
  • The Colbys (1985 - 1987)
  • The Wolves Of Willougby Chase (1989)
  • Sister Kate (1989–1990)
  • Lucky Chances (1990)
  • Beverly Hills, 90210 (occasional - 1991–1998)
  • Star Trek: The Next Generation (1 episode - 1993)
  • Cluedo (1990)
  • seaQuest DSV (1993–1994)
  • No Bananas (1996)
  • Charmed (1 episode - 2000)
  • Relative Values (2000)
  • The Witches Hammer (2006)
  • Love and Other Disasters (2006)
  • Bad Girls (2003–2006)
  • New Tricks (TV series) (1 episode - 2006)
  • Little Birds (2009)


   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.