Steve Box
Mae Steve Box (ganed 23 Ionawr 1967 ym Mryste) yn gyfarwyddwr ac animeiddiwr o Loegr sydd wedi ennill Gwobr yr Academi. Gweithia i gwmni Aardman Animations.
Steve Box | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ionawr 1967, 1956 Bryste |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | animeiddiwr, sgriptiwr, cyfarwyddwr, cyfarwyddwr ffilm |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Annie, Gwobr yr Academi am yr Animeiddiad Ffilm Gorau |
Roedd ei waith cynharaf ym myd animeiddio'n cynnwys y gyfres deledu Brydeinig The Trap Door i stiwdio animeiddio o Fryste o'r enw CMTB Animation.
Ymunodd Box â Aardman Animations ym 1990. Cyfarwyddodd fideo'r Spice Girls "Viva Forever" ym 1998. Enillodd BAFTA ym 1998 am ffilm 11 munud o hyd wedi'i hanimeiddio o'r enw Stage Fright. Ef ddarparodd y llais hefyd i gymeriad Vince yn y gyfres deledu Rex the Runt.
Box oedd prif animeiddiwr Aardman gyda'r ffilm Chicken Run yn ogystal â bod yn animeiddiwr ar ffilmiau Wallace and Gromit, The Wrong Trousers a A Close Shave. Hefyd, cyd-ysgrifennodd a chyd-gynhyrchodd y ffilm Wallace and Gromit lawn gyntaf Wallace & Gromit: The Curse of the Were-Rabbit gyda Nick Park.