Stewart Jones
Actor o Gymro oedd Stewart Whyte McEwan (1928–2011) neu Stewart Jones fel roedd yn cael ei adnabod.[1] Ganwyd ef yn y Queen Mary's Nursing Home, Caeredin i Adelaide Bremner, ac ei dad oedd David McEwan. Penderfynodd ei rieni eu bod am roi i ffwrdd. Gan fod Robert Henry Jones (o'r llys-enw Cennin) wedi bod yn gweithio yn yr Alban, drwy gyd-ddigwyddiad fe ddaeth y baban i ofal Cennin a'i wraig Rebecca Marr.[2]
Stewart Jones | |
---|---|
Ffugenw | Ifas y Tryc |
Ganwyd | 1928 Caeredin |
Bu farw | 2011 |
Man preswyl | Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddus yr arferai ei chwarae oedd Ifas y Tryc a sgwennwyd gan ei gyfaill Wil Sam. Disgrifiwyd ef yn ei rôl fel Ifas y Tryc yn The Independent fel "The part was brilliantly played by the actor Stewart Jones".[3]
Enillodd Stewart Wobr Goffa Llwyd o'r Bryn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Enillodd wobr BAFTA Cymru yn 2002 am ei ran yn ffilm Oed Yr Addewid.
Ffilmyddiaeth
golygu- Oed yr Addewid
- Nel
- Glas y Dorlan
- Talcen Caled
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Actor dies, aged 83 Thisissouthwales.co.uk 27-07-2011. Adalwyd 27-07-2011
- ↑ Dwi'n deud dim,deud ydw i. Cyfres y Cewri 24.Gwasg Gwynedd
- ↑ Coffâd gan Wil Sam yn The Independent. Adalwyd 28/07/2011.