Stewart Williams
Hanesydd, awdur a chyhoeddwr o Gaerdydd oedd Stewart Williams (12 Rhagfyr 1925 – 13 Ionawr 2011).[1] Cyhoeddodd mwy na 100 o lyfrau yn cynnwys y gyfres 36-cyfrol Cardiff Yesterday oedd yn cynnwys archif bwysig o dros 7,500 o hen luniau.
Stewart Williams | |
---|---|
Ganwyd | 12 Rhagfyr 1925 y Rhath |
Bu farw | 13 Ionawr 2011 |
Man preswyl | Trelái |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hanesydd, llenor, cyhoeddwr |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Stewart Williams yn Y Rhath ond fe'i magwyd yn Threlái.
Gweithiodd yn adran Beirianneg Cyngor Sir Caerdydd, cyn symud i swydd fel swyddog cyhoeddusrwydd gyda chwmni bws Western Welsh, gan ddechrau dysgu sgiliau fel gosod tudalennau, maint teip a ysgrifennu capsiynau, oedd yn sylfaen i grefft y newyddiadurwr ac argraffydd yn nyddiau y wasg print.
Cychwynodd ei yrfa cyhoeddi drwy gynhyrchu rhaglenni pêl-droed answyddogol i glwb Dinas Caerdydd, tîm a gefnogodd drwy gydol ei oes. Gwnaeth llwyddiant ysgubol ei gyfres o lyfres Cardiff Yesterday yn bosib iddo weithio fel cyhoeddwr yn llawn amser yn 1997 ac erbyn 1980 roedd wedi cyhoeddi 50 llyfr o'i gartref yn Y Barri. Roedd y busnes yn un teuluol gyda'i wraig Betty a'i blant Robert a Diane yn helpu gyda popeth o brawf-ddarllen i ddosbarthu.[1]
Bu farw ei wraig yn 2009 a bu farw yntau yn 2011, yn 85 oed.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Meic Stephens (17 Chwefror 2011). Stewart Williams: Noted publisher whose books brought the history of Cardiff to life. independent.co.uk. Adalwyd ar 12 Awst 2016.
- ↑ Prolific Cardiff historian Stewart Williams dies at 85 (en) , BBC Wales, 15 Ionawr 2011. Cyrchwyd ar 12 Awst 2016.