Stiwdio a Menyg
Darlun olew gan Shani Rhys James ydy Stiwdio a menyg. Cafodd y darlun ei bentio yn 1993 ac mae'n cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, Ceredigion.[1] Prynnodd y Llyfrgell y llun yn uniongyrchol oddi wrth yr arlunydd yn 2000. Y dyfrwng yw paent olew ar gynfas ac mae'n mesur 233 x 179 cm.[2]
Yn y llun fe welir yr artist ei hun yn ei stiwdio blêr, gyda menyg am ei dwylo ac hen fenyg ym mhobman ar y llawr. Caiff Shani ei hadnabod am ei lluniau melancolig, gyda hi ei hun ynddynt, yn pensynnu. Mae'r darlun hwn yn nodweddiadol o'i gwaith.[3] Ond yn wahanol i'r arfer, mae'r hunanbortread ynddo'n cyfleu rhyw syndod yn ei hwyneb, fel pe na bai'n disgwyl i'r llun gael ei gymryd! Ac yn wrth-felancolig, bron, mae'r lliwiau'n un ffrwydriad gwyllt. Flwyddyn wedi iddi orffen y paentiad hwn, yn 1994, cafodd Shani Rhys James ei hethol i'r Academi Frenhinol Gymreig.[4]
Yr arlunydd
golyguGanwyd Shani Rhys James yn 1953 yn Melbourne, Awstralia[5] ac mae hi bellach wedi ymgartrefu yn Llangadfan, Powys. Awstraliad oedd ei mam a Chymro oedd ei thad.[5]
Europeana 280
golyguYn Ebrill 2016 dewisiwyd y darlun fel un o ddeg llun eiconig i gynrychioli Cymru yn y prosiect "Gwaith Celf Europeana".[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ y llun ar wefan y Llyfrgell.
- ↑ artuk.org; adalwyd 20 Mai 2016.
- ↑ Susie Wild Art: On Reflection, Metro, 8 Gorffennaf 2008. Retrieved 15 Mai 2016
- ↑ Martin Tinney Gallery Shani Rhys James MBE RCA b.1953. Adalwyd 15 Mai 2016
- ↑ 5.0 5.1 BBC Wales Arts Shani Rhys James, 28 Medi 2010. Adalwyd 6 Tachwedd 2011.
- ↑ Gwfan Europeana; adalwyd 11 Rhagfyr 2017.