Shani Rhys James
Mae Shani Rhys James MBE (ganed ym 1953 yn Melbourne, Awstralia[1]) yn arlunydd o Llangadfan, Powys. Disgrifwyd James fel "arguably one of the most exciting and successful painters of her generation"[1] a "one of Wales’ most significant living artists".[2] Cafodd ei hethol i'r Royal Cambrian Academy of Art ym 1994.[3] Yn ystod Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2006, cafodd ei phenodi yn Member of the Order of the British Empire (MBE) am ei "chyfraniad i gelf".[1]
Shani Rhys James | |
---|---|
Ganwyd | 1953, Mai 1953 Melbourne |
Man preswyl | Llangadfan |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd |
Gwobr/au | Jerwood Painting Prize |
Gwefan | https://www.shanirhysjames.com/ |
Bywyd cynnar
golyguGaned Shani Rhys James ym 1953 ym Melbourne, Awstralia. Roedd ei thad yn Gymro a'i mam yn hannu o Awstralia. Symudodd Rhys James i'r DU fel plentyn.[1] Yn chwe blwydd oed bu Rhys James yn wael gyda thrombosytopenia. Disgrifiodd ei chyfnod gartref o'r ysgol o achos ei salwch fel cyfnod arwyddocaol a alluogodd hi chwarae fel plentyn ac ehangu ei dychymyg.[4] Dywed fod ei chyfnod yn Awstralia hefyd wedi ei hannog i greu bywoliaeth allan o gelf.[5] Awgrymodd ei mam iddi beidio mynychu Ysgol Gelf, gan nad oedd yr artistiaid gorau yn eu mynychu yn ei thyb hi.[6] Cynhaliwyd ei diddordeb mewn celf drwy ei chyfeillgarwch â Charles Blackman a sawl cyfaill plentyndod artistig arall.[7] Gan ei bod ei mam yn actor, bu'r theatr hefyd yn ddylanwad mawr ar Rhys James.[8] Roedd props a gwisgoedd theatr yn rhan gyson o amgylchedd ei magwraeth.[9]
Derbyniodd ei haddysg gynnar yn Eltham, Awstralia, cyn symud ymlaen i Parliament Hill Girls School, yn Llundain.[4]
Addysg a gyrfa
golyguAstudiodd Rhys James yng Ngholeg Celf a Dylunio Loughborough. Ym 1976 enillodd radd mewn Celfyddyd Cain yn Ysgol Gelf Saint Martin.
Wedi derbyn gradd, symudodd i Bowys i fyw, gweithio a magu ei theulu ifanc.[10]
Adnabuwyd Rhys James yn bennaf fel artist hunan bortreol.[11] Roedd ei darn ym 1993, Studio with Gloves yn hunanbortread ohoni hi ei hun yn eistedd yn ei stiwdio. Nid yw gwaith Rhys James yn gyfyngedig i hunanbortreadau yn unig, hoffai baentio portreadau o ferched eraill, golygfeydd domestig neu ddarluniau "riotously spiky and rip-roaring" o fasys o flodau. Dywed y adolygydd cerdd Michael Glover, "There's something mad, wild and thuggish about this work, such is its total lack of restraint. It seems to be gulping at colour... She lathers and slathers on the paint with a kind of unrestrained glee. No wonder the eyes of the model are always slightly bulbous with a kind of childish wonderment".[12] Mae Rhys James hefyd wedi cynhyrchu printiau a darluniau mewn inc a siarcol.[13]
Mae Rhys James wedi cael ei hethol i'r Royal Cambrian Academy of Art a 56 Group Wales.[3]
Ym 2011 cynhwyswyd Rhys James mewn cyfres deledu ar y BBC a oedd yn trafod artistiaid mawr Cymru. Hi eodd yr unig artist byw i gael ei chrybwyll. Cyflwynwyd y rhaglen gan Rolf Harris. Paentiodd Harris hunanbortread yn arddull Rhys James gan ddefnyddio drych bychan a gan edrych ar ei wyneb 'as a landscape'.[14]
Mae Rhys James wedi arddangos ei gwaith ar draws Ewrop, yr UDA, Hong Kong, Seland Newydd ac Awstralia.[3] Er, Martin Tinney Gallery, Caerdydd sydd yn ei chynrychioli.
Arddangosfeydd
golyguRhestrwyd gan wefan BBC Wales Arts oni bai y nodwyd fel arall.[1]
- 1992 - Beaux Arts, Bath
- 1993 - Blood Ties, Canolfan Celf Llyfrgell Wrecsam, arddangosfa deithiol
- 1994 - Glyn Vivian Art Gallery, Abertawe; Midlands Art Centre, Birmingham; Newport Museum and Art Gallery; Galeri Gelf Caerfyrddin
- 1995 - Martin Tinney Gallery, Caerdydd
- 1996 - Re-Vision, Fettered Past, Midlands Art Centre, Birmingham
- 1997 - Facing the Self, Mostyn Art Gallery, Llandudno, teithiol hefyd
- 2000 - The inner Room, Stephen Lacey Gallery, Llundain
- 2003 - Significant Paintings, Museum of Modern Art Wales, Machynlleth
- 2003 - Recent Paintings, Martin Tinney Gallery, Caerdydd
- 2004 - The Black Cot, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth arddangosfa deithiol
- 2005 - Layers, Martin Tinney Gallery, Caerdydd
- 2008 - Martin Tinney Gallery, Caerdydd
- 2009 - Two Ateliers, Connaught Brown Gallery, Llundain
- 2010 - Oriel Martin Tinney, Caerdydd
- 2010 - Hillsboro Fine Art, Dulyn
- 2014 - Florilingua, installation in the foyer of the Wales Millennium Centre, Caerdydd [15]
- 2015 - Distillation, arddangosfa tirnodiadau Shani Rhys James yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.[16]
Gwobrwyon a dyfarniadau
golyguRhestrwyd gan Martin Tinney Gallery oni bai y nodwyd fel arall[3]
- 1989 Gwobr Gyntaf, Wales Open, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
- 1990 Ail Wobr, Wales Open, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
- 1991 Gwobr Gyntaf, Mostyn Open, Oriel Mostyn, Llandudno
- 1992 Medal Aur ar gyfer Celfyddyd Cain, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
- 1993 Hunting Art Prize/Observer Art Prizes [17]
- 1994 Etholwyd yn aelod 56 Group Wales
- 1994 Etholwyd yn aelod o'r Royal Cambrian Academy
- 1994 Enillydd BBC Wales Visual Art Award 1994
- 1994 Ail Wobr, BP National Portrait Award [1]
- 2003 Menyw Diwylliannol, Welsh Women of the Year Awards
- 2003 Enillydd Jerwood Painting Prize[18]
- 2006 Creative Wales Award, Cyngor Celfyddydau Cymru
- 2007 Cymrodoriaeth er Anrhydedd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- 2007 Glyndwr Award, Outstanding Contribution to Arts in Wales, gan MOMA Wales[1]
- 2008 Cymrodoriaeth er Anrhydedd, Coleg Celf Henffordd
Bywyd personol
golyguMae Rhys James yn briod i'r artist Stephen West[1] a mae ganddynt ddau o blant.[10] Er ei bod ar y cyfan yn cael ei chydnabod fel Cymraes mae ganddi basbort Awstralia a disgrifia ei hun fel "mongrel Celt".[19]
Prynodd Rhys James ail gartref yn Charente, France (2010), ac yno, y treuliai llawer o'i hamser.[2]
Gweler hefyd
golygu- What Do Artists Do All Day?
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 BBC Wales Arts Shani Rhys James, last updated 28 September 2010.
- ↑ 2.0 2.1 Matt Thomas Shani Rhys James revels in French connection, Western Mail, 8 October 2010.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Martin Tinney Gallery Shani Rhys James MBE RCA b.1953.
- ↑ 4.0 4.1 Collet, Penelope (2012). The Life Histories of Five Contemporary Welsh Women Artists. United States of America: The Edwin Mellen Press. tt. 90–91. ISBN 978-0-7734-2667-2.
- ↑ Collet, Penelope (2012). The Life Histories of Five Contemporary Welsh Women Artists. United States of America: The Edwin Mellen Press. t. 90. ISBN 978-0-7734-2667-2.
- ↑ Collet, Penelope (2012). The Life Histories of Five Contemporary Welsh Women Artists. United States of America: The Edwin Mellen Press. t. 91. ISBN 978-0-7734-2667-2.
- ↑ Collet, Penelope (2012). The Life Histories of Five Contemporary Welsh Women Artists. United States of America: The Edwin Mellen Press. t. 92. ISBN 978-0-7734-2667-2.
- ↑ Collet, Penelope (2012). The Life Histories of Five Contemporary Welsh Women Artists. United States of America: The Edwin Mellen Press. t. 93. ISBN 978-0-7734-2667-2.
- ↑ Collet, Penelope (2012). The Life Histories of Five Contemporary Welsh Women Artists. United States of America: The Edwin Mellen Press. t. 102. ISBN 978-0-7734-2667-2.
- ↑ 10.0 10.1 Stephanie McNicholas Meet the women leading Wales, Western Mail, 12 November 2003.
- ↑ Susie Wild Art: On Reflection, Metro, 8 July 2008.
- ↑ Michael Glover Shani Rhys James, Connaught Brown, London: Mad dashes and flying colours, The Independent, 17 June 2009.
- ↑ Collet, Penelope (2012). The Life Histories of Five Contemporary Welsh Women Artists. United States of America: The Edwin Mellen Press. t. 106. ISBN 978-0-7734-2667-2.
- ↑ Can you tell who it’s by yet?
- ↑ Karen Price, Karen (16 June 2014). "The new work of art which 'speaks' to you". Wales Online. Cyrchwyd 30 June 2014.
- ↑ William, Elwyn (14 February 2015). "'Distillation': 30 Years of Painting - Shani Rhys James MBE The National Library of Wales 14 February – 23 May 2015". National Library of Wales. Cyrchwyd 20 July 2015.[dolen farw]
- ↑ "The Hunting Art Prizes" (PDF). Hunting plc. t. 51. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2016-12-06.
- ↑ Jerwood Painting Prize 2003 Archifwyd 2012-02-08 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Rees, Mark (9 July 2014). "Interview: Shani Rhys James on her new exhibition Florilingua at Wales Millennium Centre". South Wales Evening Post. Cyrchwyd 23 July 2014.